Dim cymorth ariannol i gwmni dur Liberty
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraeth y DU wedi gwrthod cais cwmni Liberty Steel am £170m o gymorth ariannol.
Fe wnaeth sefydlydd y cwmni, Sanjeev Gupta, anfon llythyr yr wythnos ddiwethaf i San Steffan yn gofyn am gymorth ariannol i dalu costau dyddiol yn sgil colledion diweddar.
Mae perchennog Liberty, GFG, yn cyflogi 5,000 o staff mewn 12 safle ym Mhrydain - yn eu plith Casnewydd.
Yn gynharach y mis hwn fe wnaeth un o brif gefnogwyr ariannol y cwmni, Greensill Capital, ddatgan ei fod yn fethdalwr.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd ffynonellau o San Steffan wrth y BBC bod yna gryn bryderon am natur "niwlog" ymerodraeth Mr Gupta sy'n cyflogi 35,000 o bobl ar draws y byd.
Nodwyd y byddai unrhyw gymorth yn debygol o ddod wedi proses weinyddol yn hytrach na chefnogaeth i'r gorfforaeth sydd berchen ar y cwmni.