Covid: Marwolaethau yn gostwng am y nawfed wythnos
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y marwolaethau wythnosol yng Nghymru sy'n gysylltiedig â Covid wedi gostwng i'w lefel isaf ers 16 Hydref.
Hon yw'r nawfed wythnos yn olynol i'r niferoedd ostwng.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau roedd yna 49 o farwolaethau yn gysylltiedig gyda'r feirws - 7.9% o'r holl farwolaethau.
Roedd 19 yn llai o farwolaethau yn yr wythnos hyd at 19 Mawrth o gymharu â'r wythnos flaenorol.
O ran y byrddau iechyd roedd 10 marwolaeth yn ardal Aneurin Bevan, naw ym Mhowys - gan gynnwys pump mewn cartrefi gofal - a naw yn Betsi Cadwaladr.

Ni chafodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig gyda Covid-19 ei chofnodi mewn pedair sir
Ni chafodd unrhyw farwolaethau yn ymwneud a Covid eu cofrestru ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Sir Benfro a Cheredigion.
Er mwyn mesur tueddiadau, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cofnodi cyfartaledd marwolaethau dros gyfnod o bum mlynedd.
Mae'r ffigyrau wythnosol diweddara yn is na'r cyfartaledd dros bum mlynedd, a hynny am y drydedd wythnos yn olynol.
Wrth edrych ar y ffigyrau ers dechrau'r pandmeig, bu 40,075 o farwolaethau, gyda 7,764 yn gysylltiedig gyda Covid-19 yn ôl y tystysgrifau marwolaeth.
Roedd hyn 6,017 yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021