Cyngor Sir Penfro yn penodi prif weithredwr newydd

  • Cyhoeddwyd
Will BrambleFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cadarnhau mai prif weithredwr newydd y sir yw Will Bramble.

Cafodd y penodiad ei gadarnhau mewn sesiwn breifat o'r cyngor ddydd Mercher.

Bydd yn olynu Ian Westley wnaeth adael ei swydd ym mis Tachwedd, gyda rhai cynghorwyr yn honni bod hynny oherwydd perthynas wael gydag aelodau'r cabinet.

Mae swyddfa Archwilio Cymru yn ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd at Mr Westley yn gadael ei swydd gyda thaliad o £95,000.

Dywedodd Mr Bramble, sy'n gyn-swyddog gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rwyf yn gwybod y bydd hwn yn her, ac rwy'n gwybod fod amseroedd wedi bod yn anodd iawn. Rwy'n gweld hyn fel anrhydedd."

Pynciau cysylltiedig