Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad ar gyrion Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi marw a dau berson wedi cael eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Bangor nos Fawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r A4087 rhwng archfarchnad Tesco a chylchdro'r Faenol ychydig cyn 21:15.
Roedd dau gerbyd yn y gwrthdrawiad - Seat Leon glas oedd yn teithio i gyfeiriad Caernarfon a Honda Civic coch oedd yn gyrru tua Bangor.
Cadarnhaodd y gwasanaethau brys bod y ddynes oedd yn teithio yn sedd flaen yr Honda Civic wedi marw yn y fan a'r lle.
Cafodd dyn oedd yn gyrru'r Honda Civic a dynes oedd yn gyrru'r Seat Leon eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, cyn cael eu symud i ysbyty yn Stoke.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod y ddau wedi cael anafiadau all beryglu eu bywydau.
Mae'r llu'n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A4087 a allai fod â lluniau dash cam i'w cynnig i gysylltu â nhw.
"Os welsoch chi'r gwrthdrawiad, neu os welsoch chi un o'r cerbydau'n gyrru ychydig cyn y gwrthdrawiad, cysylltwch â ni gynted â phosib," meddai'r Sarjant Liam Ho o'r Uned Plismona'r Ffyrdd, gan gydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r ddynes a fu farw.
"Gall hyd yn oed y darn lleiaf o wybodaeth ein helpu deall amgylchiadau'r digwyddiad yma."