Gwyddelod Llundain 41-35 Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gwyddelod Llundain yn dathlu'r fuddugoliaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwyddelod Llundain yn dathlu'r fuddugoliaeth

Gydag munudau o'r gêm yn weddill roedd Gleision Caerdydd ar y blaen o 32-20 a gyda mantais o ddau chwaraewr dros eu gwrthwynebwyr... roedd un droed yn rownd yr wyth olaf.

Roedd pethau wedi dechrau'n dda i dîm Dai Young gyda dau gais cynnar yn sicrhau mantais o 17-13 ar yr egwyl yn erbyn Gwyddelod Llundain.

Ond er gwaethaf menter y clwb o Gymru wrth ymosod, roedd ffaeleddau mewn disgyblaeth ac amddiffyn ar fin dod i'r amlwg unwaith eto.

Er i'r prop Will Goodrick-Clarke weld cerdyn coch i'r Alltudion wedi 47 munud, ac un chwaraewr arall yn y cell cosb wedi 54 munud, fe lwyddodd Gwyddelod Llundain i sgorio dau gais (gyda throsiadau) i fynd ar y blaen o ddau bwynt.

Ond megis dechrau oedd y ddrama.

Ychwanegodd Jarod Evans gôl adlam gyda thri munud yn weddill i roi'r Gleision ar y blaen o bwynt yn unig.

Ond roedd amser o hyd i Curtis Rona groesi am gais gyda symudiad ola'r gêm i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy i'r tîm cartref, a cholled dorcalonnus i'r ymwelwyr.

Pynciau cysylltiedig