Cannoedd yn ymgasglu ger y Senedd

  • Cyhoeddwyd
torfeyddFfynhonnell y llun, Cai Glover

Mae torfeydd anferth wedi ymgasglu ym Mae Caerdydd er gwaeth rheolau coronafeirws sy'n dal mewn grym.

Mae lluniau a fideos wedi cael eu rhannu ar wefannau cymdeithasol yn dangos cannoedd o bobl ar y grisiau y tu allan i'r Senedd.

Mae'n dilyn golygfeydd tebyg ger yr un adeilad yn gynharach yn yr wythnos, pan gafodd tri phlismon eu hanafu a thomenni o sbwriel eu gadael ar y safle.

Mae'r rheolau Covid yn dweud mai dim ond chwe pherson a ddwy aelwyd wahanol sy'n cael cwrdd yn yr awyr agored.

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd yr heddlu na fyddai ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei ddiodde pan ymgasglodd pobl yn yr un ardal nos Fawrth.

Ffynhonnell y llun, Cai Glover
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau'n dangos y dorf yn ymestyn ar draws glan y môr