Rhybudd wrth i grwpiau o bobl anwybyddu rheolau Covid
- Cyhoeddwyd
Roedd sbwriel i'w weld mewn mannau fel Bae Caerdydd a pharciau'r brifddinas fore Mercher
Gyda Chymru yn mwynhau ail ddiwrnod o dywydd da mae heddluoedd wedi rhybuddio pobl rhag ymgasglu mewn grwpiau.
Ddydd Mawrth wrth i'r tymheredd mewn rhai mannau gyrraedd 21C, fe wnaeth pobl achub ar y cyfle i ymweld ag atyniadau poblogaidd.
Ond mewn rhai mannau, fel Bae Caerdydd, roedd adroddiadau am bobl ddim yn cadw pellter cymdeithasol ac yn gadael llwyth o sbwriel ar eu hôl.
Cafodd un fideo ei rannu ar Twitter yn dangos llwybrau adeilad y Senedd yn llawn o boteli gwag, bagiau plastig a gwahanol fathau o sbwriel.

Gyda disgwyl hefyd am dywydd ffafriol ddydd Mercher mae Ffederasiwn Heddlu De Cymru wedi annog pobl i ddilyn rheolau Covid-19.
Mae gan hyd at chwech o bobl o ddau wahanol aelwyd yr hawl i gwrdd y tu allan - ond does dim hawl i grwpiau mawr i gwrdd.
Dywedodd Steve Treharne, Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu De Cymru: "Mae pobl wedi colli eu hanwyliaid, mae busnesau pobl wedi cael eu heffeithio ac mae'n hynod o bwysig bob pobl yn gyfrifol, fel bod modd dod allan [o'r pandemig] mor ddiogel ag sy'n bosib."

Mae pobl wedi manteisio ar y tywydd braf i ymweld â pharciau ar hyd a lled Cymru
Ychwanegodd tra bod y rhan fwyaf yn ufuddhau'r rheolau, mae yna "rai yn credu na ddylai'r rheolau amharu ar eu bywydau".
"Rwyf yn gofyn i bobl fod ychydig bach yn fwy cyfrifol nawr wrth i ni gyrraedd pen y twnnel."
Mae fideos hefyd wedi eu rhannu o ysbwriel yn cael ei adael mewn atyniadau twristaidd mewn rhannau eraill o Gymru.
Wrth ymateb i'r hyn ddigwyddodd yn y Senedd dywedodd Cerys Furlong, perchennog tafarndai yng Nghaerdydd: "Mae hwn yn ysbwriel mae tafarndai, tai bwyta a chaffis yn talu i'w waredu fel rheol.
"Nawr, yn hytrach mae trethdalwyr yn talu'r bil. Pam ddim gadael i leoliadau sydd wedi eu trwyddedu a'u rheoleiddio fod yn rhan o'r ateb yn hytrach na'n gweld fel problem?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2020
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020