Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 39-43 Northampton Saints
- Cyhoeddwyd
Mae'r tîm rhanbarthol olaf o Gymru allan o gystadleuaeth Cwpan Her Ewrop gan adael i'r gêm lithro o'u gafael er iddyn nhw fod ar y blaen ddwywaith.
Ar un cyfnod roedd gyda nhw fantais o 22-3 ond fe frwydrodd y Seintiau'n ôl gan gipio'r fuddugoliaeth ar y diwedd gyda chais hwyr Tom Collins.
Daeth cyfle cyntaf y Dreigiau wedi i James Grayson, sy'n parhau yn y crys rhif 10 yn absenoldeb Dan Biggar, ollwng y bêl o gic Sam Davies.
Cic gosb oedd canlyniad cwymp pac Northampton yn y sgrym ddilynol, ac fe sicrhaodd Davies bwyntiau cyntaf y gêm i'r tîm cartref.
Tarodd y Dreigiau eto pan basiodd Jamie Roberts y bêl heibio'r amddiffyn i'r asgellwr Ashley Hewitt i dirio yn y gornel chwith.
Wedi trosiad llwyddiannus Davies, roedd hi'n 10-0 i'r Gweilch.
Ymatebodd Northampton yn gadarnhaol wedi'r sioc gynnar honno, gan gynyddu'r pwysau digon i sicrhau cic gosb a'u pwyntiau cyntaf hwythau.
Ond yna fe gafodd Ollie Sleightholme gerdyn melyn am gyffwrdd yn Jordan Williams oddi ar y bêl wrth redeg, wrth iddo yntau redeg i geisio cefnogi Ross Moriarty.
Ofer fu'r drosedd, oherwydd ni wnaeth atal Matthew Screech rhag croesi'r llinell. Bu'n rhaid aros i'r swyddog teledu gadarnhau bod y cais yn ddilys, cyn i Davies dros eto.
Daeth trydydd cais y Dreigiau cyn yr egwyl wedi i Hewitt hyrddio'u hun yn nerthol dros y llinell. Ond mae'n ymddangos iddo gael anaf i'w ben-glin a bu'n rhaid iddo adael y maes. Aflwyddiannus oedd y trosiad yn yr achos hwn.
Llwyddodd Northampton i ddechrau taro'n ôl yn y munudau cyn yr egwyl, ac fe fanteisiodd yr asgellwr Taqele Naiyaravoro ar ddryswch ymhlith amddiffynwyr y Dreigiau i dirio rhwng y pyst. Wedi'r trosiad gan Grayson roedd y Dreigiau ar y blaen 22-10 wedi'r hanner cyntaf.
Amddiffyn arwrol
Caeodd y Seintiau'r bwlch ymhellach wedi'r egwyl pan ruthrodd Naiyaravoro o linell 22 medr ei hun. Llwyddodd Sleightholme i osgoi'r amddiffynwyr olaf i dirio yn y gornel dde.
Daeth Davies i'r adwy gydag ail gic gosb dros y Dreigiau cyn i Northampton golli dau chwaraewr arall, Alex Coles a John Tonks, i'r gell gosb o fewn cyfnod byr.
Roedd amddiffyn Northampton yn arwrol ond fe wibiodd Davies wedi sgrym ymosodol, ac ychwanegu pwyntiau gyda chais a throsiad.
Ond yn rhyfeddol fe darodd 13 dyn Northampton yn ôl gyda chais eu hunain, gan Alex Mitchell. Cafodd y cais ei throsi gan Grayson i gau'r bwlch i 24-32.
Wedi i'w chwaraewyr ddychwelyd i'r maes o'r gell gosb, fe ildiodd Northampton bumed cais i'r Gweilch wrth i'r prop Leon Brown groesi'r llinell o agos, gyda Davies yn trosi unwaith yn rhagor.
Ond nid oedd y Seintiau am roi'r ffidil yn y to ac fe sgoriodd y capten Teimana Harrison gais, gan olygu bod y bwlch bellach yn 10 pwynt.
Bu'n rhaid i'r Dreigiau chwarae'r 10 munud olaf gyda 14 chwaraewyr wedi cardyn melyn i'r bachwr Elliot Dee.
Rhoddodd hynny hyder i'r ymwelwyr ac wedi sawl ymdrech, fe sgoriodd Naiyaravoro ei ail gais o'r gêm, gyda Grayson yn trosi eto fyth.
Chwe munud roedd yn weddill, pan gurodd Collins Davies i'r llinell am gais a throsiad a seliodd y fuddugoliaeth.
Bydd Northampton yn wynebu Harlequins neu Ulster yn rownd yr wyth olaf.