Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Torquay United

  • Cyhoeddwyd
wrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Sgoriodd Sam Sherring gôl hwyr wrth i Torquay roi hwb i'w gobeithion o ddyrchafiad awtomatig gyda buddugoliaeth allweddol yn Wrecsam.

Roedd y golled yn galed ar Wrecsam a oedd wedi creu'r rhan fwyaf o'r cyfleoedd ar y Cae Ras.

Fe roddodd ail golled dros benwythnos y Pasg ergyd arall i'w gobeithion o gyrraedd y safleoedd ail gyfle eu hunain.

Mae tîm Dean Keates yn disgyn allan o'r safleoedd hynny tra bod Torquay yn aros yn drydydd.