Achub tad fu'n chwilio am ei ferch ar fynydd yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
map

Bu'n rhaid i dîm achub mynydd fentro allan ar ôl i ddyn yrru o Gaerdydd i Eryri i chwilio am ei ferch a oedd mewn trafferthion.

Roedd y ddynes 22 oed yn gwersylla yn Eryri dros nos Sul y Pasg pan chwythodd ei phabell i ffwrdd.

Roedd hi wedi ceisio cysgodi rhag y gwyntoedd, glaw ac eira yn ardal Cwm Lloer, Sir Conwy.

Fe yrrodd ei thad pryderus sawl awr o Gaerdydd dros nos i chwilio amdani wrth i'r tywydd waethygu.

Yn y cyfamser, am tua 05:30, roedd ei ferch wedi cyrraedd yr A5 ac wedi galw ei mam a rybuddiodd y tîm bod y tad yn teimlo'n sâl.

Daeth tîm achub mynydd Cwm Ogwen o hyd iddo ar y mynydd.

Dywedodd llefarydd ar ran tîm Ogwen fod pawb yn "ddiogel ac yn iach" erbyn 09:00 fore Llun.