£1bn y flwyddyn i fynd i'r afael â'r 'argyfwng hinsawdd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Paneli solarFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiad Senedd Cymru'n hwyrach gydag addewid i wario £1bn y flwyddyn ar fynd i'r afael â'r "argyfwng hinsawdd".

Yn y digwyddiad dywedodd arweinydd y blaid, Jane Dodds, mai'r Democratiaid Rhyddfrydol yw'r "unig blaid" a fyddai'n blaenoriaethu adferiad Cymru.

Mae'r blaid yn amddiffyn un sedd yn yr etholiad ar 6 Mai.

Y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r olaf o'r prif bleidiau i lansio eu hymgyrch etholiadol.

Yn y digwyddiad yng Nghaerdydd fe wnaeth Ms Dodds amlinellu rhai o brif bolisïau'r blaid.

Maen nhw'n cynnwys:

  • Gwario £1biliwn y flwyddyn ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd;

  • Adeiladu 30,000 o dai cymdeithasol newydd;

  • Buddsoddiad o £500m mewn trefi a chanol dinasoedd;

  • Cynnal treial o Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru;

  • Rhewi cyfraddau busnes am bum mlynedd a chyflwyno "system decach, mwy cefnogol";

  • Cyflwyno gofal plant rhan-amser rhad ac am ddim i bawb o naw mis oed i oedran ysgol, ac ehangu'r ddarpariaeth o ofal cyn ac ar ôl ysgol.

'Rhoi adferiad yn gyntaf'

Dywedodd Ms Dodds: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd, mae bywyd fel rydyn ni'n ei adnabod wedi newid, ond dwi'n gwybod bod Cymru yn wlad gadarn ac mae gennym ni gyfle i adeiladu dyfodol gwell i'n plant a phlant ein plant.

Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds yn lansio'r ymgyrch yng Nghaerdydd

"Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yw'r unig blaid sy'n addo rhoi adferiad yn gyntaf.

"Byddwn yn sicrhau ein hadferiad economaidd, adferiad amgylcheddol ac adferiad i'n gwasanaethau iechyd meddwl."

"Bydd llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu her enfawr gyda'r problemau a oedd eisoes yn bodoli yn ein gwlad ac sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i Covid.

"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cyflwyno opsiynau radical ond realistig ar gyfer dyfodol Cymru.

"Ni all Gymru fforddio i unrhyw blaid nac unrhyw lywodraeth roi unrhyw beth heblaw ein hadferiad yn gyntaf."

Mae'r addewid i wario £1bn y flwyddyn ar yr "argyfwng hinsawdd" yn cyd-fynd â galwad a wnaed gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe.

Maint cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yw tua £18bn.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amddiffyn un sedd yn yr etholiad hwn.

Mae honno'n perthyn i Kirsty Williams sydd wedi gwasanaethu fel gweinidog addysg yn Llywodraeth Lafur Cymru ers 2016.

Dydy Ms Williams ddim yn sefyll yn yr etholiad hwn.