Cynlluniau £30m i greu pentref gwyliau yn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae datblygwyr wedi cyhoeddi cynlluniau i greu pentref gwyliau gwerth £30m yng ngogledd Ynys Môn.
Byddai'r cynllun, ar hen safle gwaith cemegol Octel yn Amlwch, yn cynnig llety i hyd at 1,000 o bobl ar y tro, ac yn creu 60 o swyddi.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Aled Morris Jones: "Mae unrhyw fuddsoddiad yma yn Amlwch a gogledd Môn i'w groesawu, ond mae nifer o gwestiynau i'w hystyried cyn gwneud penderfyniad."
Mae ymgynghorwyr sy'n gweithredu ar ran perchnogion y safle, NPL Group, wedi cynnal trafodaethau anffurfiol gyda swyddogion Cyngor Môn, ac yn gobeithio cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad.
Dyma'r trydydd datblygiad tebyg sydd ar y gweill ar hen safleoedd diwydiannol yn y gogledd-orllewin.
Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer pentref gwyliau dadleuol gwerth £120m ar dir oedd yn arfer bod yn eiddo i Alwminiwm Môn ger Caergybi.
Pan gyhoeddodd cwmni gwyliau Bluestone eu cynlluniau ar gyfer y safle yn 2018, y bwriad oedd ei agor yn 2021. Ond dywedodd Bluestone ddydd Mercher nad oedd yna unrhyw fwriad hyd yn oed dechrau ar y gwaith ar y foment, oherwydd nad oedd cyllid ar gael.
Ar lannau'r Fenai, mae datblygwr arall yn gobeithio creu pentref gwyliau ar hen safle Friction Dynamics ger Caernarfon.
Yn ôl Dr Edward Jones o Ysgol Fusnes Bangor, mae'n rhaid derbyn fod y dyddiau o ffatrïoedd o'r fath, yn cyflogi cannoedd o bobl, ar ben yng ngogledd Cymru.
"Mae'n rhaid derbyn bellach mai China ydy ffatri'r byd," meddai.
Ond ychwanegodd na ddylai twristiaeth gael ei weld fel yr unig ateb i broblemau economaidd y Gymru wledig.
"Yr her ydy cael cydbwysedd cywir rhwng buddsoddi mewn pethau fel creu ynni glan a'r sector hi-tech, a thwristiaeth," meddai.
Dywedodd Elin Hywel o Gymdeithas yr Iaith fod yna berygl nad oedd pentrefi gwyliau o'r fath yn cynnig unrhyw elw i gymunedau lleol, oherwydd fod pobl yn dueddol o aros o fewn y safle.
Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig fod twristiaeth yn cael ei ddatblygu ar lefel gymunedol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018