Pryder am effaith parc gwyliau yn Ynys Môn ar y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Penrhos
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r parc agor yn 2021 ac fe fydd yn costio dros £100m i'w ddatblygu

Mae cynghorydd ar Ynys Môn wedi galw penderfyniad Bluestone i adeiladu pentref gwyliau newydd ar Ynys Gybi yn "warthus."

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd Robert Llywelyn Jones ei fod yn pryderu sut effaith bydd y datblygiad yn ei gael ar yr iaith Gymraeg.

Nos Fawrth fe gyhoeddodd cwmni Bluestone, sydd eisoes berchen parc gwyliau yn Sir Benfro, eu bod am adeiladu parc gwyliau fydd yn cynnwys 500 o gabanau gwyliau ar stâd Penrhos ar Ynys Gybi.

Yn ôl perchnogion y tir, cwmni Land & Lakes, fydd yn gweithio mewn partneriaeth â Bluestone, mae disgwyl i'r datblygiad greu 1,500 o swyddi newydd.

Mae'r datblygwyr rwan yn chwilio am gyllid er mwyn adeiladu'r pentref gwyliau.

Pryderu am y Gymraeg

Dywedodd y Cynghorydd Robert Llywelyn Jones fod ganddo bryder am sut y bydd yr iaith yn cael ei heffeithio gan y datblygiad.

"Pa effaith fydd hwn yn ei gael ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal yma? Mae'n warthus a deud y gwir."

Ychwanegodd: "Mae pobl wedi cwffio i drio cadw'r coed yma. Does 'na ddim coed fel hyn ar yr ynys o gwbl ac mi fydd hwn yn eu difetha.

"Dim ond am dri mis y bydd pobl yn byw yna. Mae 'na bentrefi o gwmpas Ynys Môn fel Rhosneigr sydd yn wag yn y gaeaf, run fath fydd hwn mashiwr," meddai.

Newyddion 'sylweddol'

Ond nid pawb sy'n gwrthwynebu'r datblygiad.

Fe ddywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, sy'n rhan o gynllun Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd Cyngor Môn bod y newyddion yr un "mwyaf sylweddol i Ynys Môn gael ers degawdau."

Dywedodd ar raglen Newyddion 9: "Dwi'n grediniol fydd y farn leol yn gwbl gefnogol, oherwydd y swyddi da lleol, y gadwyn gyflenwi leol. Mae am fod yn hwb enfawr i economi Caergybi ac Ynys Môn,"

Cwmni Land & Lakes sydd berchen ar Barc Arfordirol Penrhos ers Awst 2016.

Yn ôl y cwmni, bydd y bartneriaeth gyda Bluestone yn helpu i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer safle gwyliau o bwys ar Ynys Môn, ac yn hwb economaidd enfawr i'r ynys, gan ddenu miloedd o ymwelwyr i Ogledd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Bluestone
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd o'r cabanau newydd fyddai ar y safle

Fe ddywedodd Prif Weithredwr Land & Lakes, Richard Sidi: "Fe fydd miliynau o bunnau o fuddsoddiad, a channoedd o swyddi a gyrfaoedd mewn lletygarwch yn golygu cyfnod cyffrous i'r gymuned leol.

Rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau y bydd pobl Ynys Môn a busnesau lleol yn elwa cymaint â phosib o'r prosiect."

Bydd y safle yn cynnwys cabanau moethus, parc dŵr o dan do, bwytai gyda golygfa o'r arfordir, ac adnoddau spa a chanolfan chwaraeon dŵr.

'Parchu'r amgylchedd'

Mae'r datblygwyr hefyd yn dweud y byddan nhw'n sicrhau y bydd y safle yn gweddu i'r amgylchedd o'i amgylch.

Dywedodd Prif Weithredwr Bluestone, William McNamara: "Mae'r rhan hon o Gymru yn haeddu cael ei harddangos i weddill y byd, ond mae hefyd angen ei datblygu yn ofalus, gan barchu ac amddiffyn yr amgylchedd hardd, fel rydym yn parhau i'w wneud yn Sir Benfro."

Mae caniatâd cynllunio cychwynnol eisoes wedi ei roi, ac mae'r datblygwyr yn chwilio am gyllid ar gyfer y pentref gwyliau newydd.

Fe allai'r safle - fydd yn costio dros £100m i'w ddatblygu - agor yn 2021.