Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-3 Stockport County
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi cael ergyd i'w gobeithion o orffen yn safleoedd y gemau ail gyfle yn y Gynghrair Genedlaethol wedi iddyn nhw gael cweir gan Stockport County ddydd Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi chwarter awr, wrth i gyn-chwaraewr Wrecsam, Alex Reid rwydo heibio i'r golwr Christian Dibble.
Ychwanegodd Reid ail gôl 10 munud yn ddiweddarach er mwyn dyblu mantais Stockport, cyn i John Rooney sgorio o'r smotyn yn yr ail hanner i gynyddu eu mantais ymhellach.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yn yr wythfed safle yn y tabl, dri phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.