Dyn anymwybodol wedi'i achub ar ôl neidio i'r môr o uchder

  • Cyhoeddwyd
Ynys CatrinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger Ynys Catrin toc wedi 18:00 nos Sadwrn

Mae'r gwasanaethau brys wedi erfyn ar bobl i beidio neidio i'r môr o uchder ar ôl iddyn nhw orfod achub dyn anymwybodol o'r dŵr yn Sir Benfro ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y dyn 23 oed wedi cael ei achub ar ôl neidio o glogwyn yn Ninbych-y-pysgod.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger Ynys Catrin toc wedi 18:00 nos Sadwrn.

Doedd y dyn ddim yn anadlu ond fe wnaeth y gwasanaethau brys berfformio CPR arno ac mae bellach yn gwella ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

"Mae'r digwyddiad yma yn pwysleisio'r perygl o neidio o glogwyni, neu tombstoning - gall y canlyniadau fod yn beryg bywyd," meddai'r Arolygydd Gavin Howells.

"Rydyn ni'n erfyn ar bobl i beidio â chymryd rhan yn y math yma o weithgaredd - dim ots ble ar hyd ein harfordir - a rhoi eu hunain a'r gwasanaethau brys mewn perygl."