Apêl i ganfod dyn sy'n cael ei amau o lofruddio bachgen
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi lansio apêl o'r newydd i ganfod dyn sy'n cael ei amau o fod yn rhan o gynllun i lofruddio bachgen 17 oed yng Nghaerdydd.
Cafodd Aamir Siddiqi ei ladd yn ei gartref yn ardal Y Rhath ym mis Ebrill 2010, wedi i'r rheiny oedd yn gyfrifol fynd i'r tŷ anghywir.
Fe gafodd Mohammed Ali Ege, 42, ei arestio yn India yn 2013 ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio, cyn iddo ddianc yn 2017 tra'n disgwyl i gael ei hedfan yn ôl i'r DU.
Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau lluniau newydd o Mr Ege, o Gaerdydd, gafodd eu cymryd tra roedd yn y ddalfa yn India.
Daw'r apêl union 11 mlynedd ers i Aamir Siddiqi gael ei lofruddio o flaen ei rieni wrth iddo ddisgwyl am ei athro Quran.
Cafodd Jason Richards a Ben Hope eu carcharu yn 2013 am drywanu Aamir i farwolaeth, ond dyw'r heddlu ddim yn gwybod ble mae Mr Ege.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd rhyngwladol i geisio dod o hyd i Ege a'i ddychwelyd i'r DU".
Mae'r llu wedi annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am Mr Ege i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2013