Aamir Siddiqi: Apêl wedi degawd er mwyn 'symud ymlaen'

  • Cyhoeddwyd
Aamir gyda'i rieni, Parveen a Sheikh Iqbal AhmedFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aamir gyda'i rieni, Parveen a Sheikh Iqbal Ahmed

Deng mlynedd i'r diwrnod ers i lanc 17 oed o Gaerdydd gael ei lofruddio ar stepen ei ddrws mae ei deulu wedi gwneud apêl o'r newydd am yr ymosodiad.

Ar 11 Ebrill 2010, cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu i farwolaeth gan ddau ddyn oedd wedi mynd i'r tŷ anghywir wrth chwilio am eu targed.

Cafodd Jason Richards a Ben Hope eu carcharu yn 2013, ond mae'r heddlu dal eisiau holi trydydd dyn - Mohammed Ali Ege - ynglŷn â'r llofruddiaeth yn Y Rhath.

Cafodd ei arestio yn India yn 2011 ond fe wnaeth ddianc o'r ddalfa cyn i'r awdurdodau ei estraddodi.

Wrth gofio'n ôl at y diwrnod, dywedodd chwaer Aamir: "Rydych chi'n ail-fyw'r diwrnod, ac i fod yn onest, dydy o ddim yn teimlo fel 10 mlynedd i ni," meddai Miriam, 37.

Ychwanegodd: "Mae'n troi eich byd ben i waered. Does dim arall i ddisgrifio'r ffordd mae'n gwneud i chi deimlo.

"Hyd yn oed yn fy mreuddwyd gwaethaf gallwn i ddim dychmygu rhywbeth fel hyn yn digwydd."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben Hope a Jason Richards eu carcharu am lofruddiaeth Aamir yn 2013

Roedd Richards a Hope, oedd wedi cymryd cyffuriau ar ddiwrnod y llofruddiaeth, yn gwisgo balaclafas pan wnaethon nhw i mewn i gartref Aamir a'i drywanu i farwolaeth.

Ceisiodd ei rieni ei achub, a dywedodd Miriam bod ei rhieni'n dal i fyw gyda thrawma'r ymosodiad.

"Dwi'n meddwl y bydd yn cymryd oes i ni geisio gwella."

Er hynny, mae hi'n awyddus i gofio ei brawd mewn ffordd bositif.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref yn Y Rhath, Caerdydd

"Rhoddodd Aamir gwerth oes o atgofion hapus. Yn amlwg mae tristwch ofnadwy - dy' ni wedi ei golli ac roedd yn galon i'n teulu - ond mae'r cof ohono yn sownd yn ein bywydau bob dydd."

Ond gan fod lleoliad Mohammed Ali Ege yn parhau'n ddirgelwch, dywedodd Miriam ei bod yn "anodd i fy rhieni symud ymlaen".

Mae swyddog aeth i'r digwyddiad ar y diwrnod bellach yn brif ymchwilydd yn yr ymdrech i ddarganfod Mr Ege.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales o Heddlu De Cymru: "Mae bod yna ar y diwrnod a phrofi'r digwyddiad wedi rhoi golwg wahanol efallai sydd ddim gan eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi rhyddhau sawl llun o Mohammed Ali Ege

Apeliodd ar unrhyw un gyda gwybodaeth am leoliad Mr Ege i gysylltu gyda nhw.

"Gadewch i ni wneud ein gwaith drwy ddarganfod Mr Ege a galluogi i deulu Aamir dynnu llinell o dan hyn."

"Ni fydd Heddlu De Cymru yn rhoi'r gorau i'r chwilio."

Wrth apelio'n uniongyrchol at Mr Ege ar ran ei theulu, dywedodd Miriam: "Mae'n rhaid eich bod wedi blino. Ac os ydych chi wedi blino, dychmygwch y poen meddwl mae fy rhieni'n ei wynebu.

"Stopiwch redeg er mwyn i fy rhieni allu symud ymlaen."