Covid-19: Nifer isaf o farwolaethau wythnosol ers Medi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ffiol gwaed gyda'r label 'coronafeirws' arni

Mae'r nifer o farwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi disgyn am yr 11eg wythnos yn olynol yng Nghymru.

Yr wythnos hon sydd â'r cyfanswm isaf o farwolaethau wythnosol ers mis Medi.

Roedd 15 marwolaeth yn gysylltiedig â'r feirws, sy'n cyfateb i 3.1% o'r holl farwolaethau yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Dengys hyn ostyngiad parhaol a chyson gyda 85% yn llai o farwolaethau Covid wedi'u cofrestru o gymharu â'r mis diwethaf.

Cyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig erbyn hyn yw 7,819.

Dim marwolaethau Covid mewn wyth sir

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg roedd gan Rondda Cynon Taf y nifer uchaf o farwolaethau mewn ysbytai ledled Cymru

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, hyd at 2 Ebrill - roedd pum marwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a phedwar yn Hywel Dda, gyda dim ar draws ardal Cwm Taf Morgannwg.

Wrth edrych ar ffigyrau pob awdurdod lleol yn unigol, ni chafodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid ei chofrestru mewn wyth sir: Bro Morgannwg, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Gwynedd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Dros gyfnod y pandemig, roedd gan Rondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr rhai o'r cyfraddau marwolaethau uchaf yn gysylltiedig â Covid.

Dim ond un farwolaeth Covid yn gysylltiedig â chartrefi gofal gafodd ei hadrodd, o Ynys Môn, y nifer wythnosol isaf eto ers mis Medi.

Dywedodd Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n adrodd marwolaethau o fewn cartrefi gofal ar wahân, fod y nifer o farwolaethau yn gysylltiedig â'r holl achosion wedi gostwng yn raddol ers mis Mawrth a'i bod nhw'n is na'r cyfartaledd ar gyfer 2019 a 2018.

Er bod cynnydd yn y dyddiau diwethaf wedi bod, maen nhw dal o dan y cyfartaledd.

Beth am 'farwolaethau gormodol'?

Mae marwolaethau gormodol, sy'n cymharu'r holl farwolaethau cofrestredig gyda'r blynyddoedd cynt, o dan gyfartaledd y pum mlynedd diwethaf am y pumed wythnos yn olynol.

Mae edrych ar nifer y marwolaethau y bydden ni fel arfer yn gweld dros y cyfnod yma am unrhyw flwyddyn yn cael ei ystyried yn ffordd ddibynadwy o fesur y pandemig.

Cwympodd y nifer o farwolaethau o ganlyniad i bob achos yng Nghymru i 483 am yr wythnos yn gorffen 2 Ebrill. Roedd hwn 182 o farwolaethau (27.4%) yn llai na'r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Mae'r canran yma'n is yng Nghymru nag yn Lloegr a'i holl ranbarthau am yr wythnos yma.

Dywedodd yr ONS bod angen bod yn bwyllog wrth edrych ar y data ar gyfer y cyfnod yma gan fod gwyliau'r Pasg wedi digwydd ar adegau gwahanol dros y blynyddoedd.

Wrth edrych ar gyfnod y pandemig cyn belled, mae 41,208 o farwolaethau wedi cael eu cofnodi, gyda 7,812 yn cynnwys Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth. Roedd hwn 5,808 yn uwch na'r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Daeth brig ail don y pandemig ar 11 Ionawr, pan roedd 83 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid.

Roedd hwn yn uwch na'r brig yn y don gyntaf, pan roedd 73 marwolaeth ar 12 Ebrill.

Daeth yr ONS i'r casgliad fod y gostyngiad mwyaf mewn marwolaethau ar draws Cymru a Lloegr ymhlith pobl dros 90 oed am yr wythnos ddiweddaraf.

Tra roedd mwy na 60% o farwolaethau'n gysylltiedig â Covid ymhlith pobl 75 oed a drosodd, mae'r cyfartaledd wedi gostwng.

Pam ydyn ni'n edrych ar ffigyrau'r ONS?

Mae'r ONS yn cymryd mwy o amser i adrodd marwolaethau na Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ei fod yn aros i farwolaethau gael eu cofrestru.

Caiff ei ystyried bod hwn yn rhoi darlun gwell o farwolaethau.

Mae ffigyrau'r ONS yn cyfri Covid pan mae'n cael ei gynnwys ar dystysgrifau marwolaeth gan feddygon, sydd naill ai'n drwgdybio neu'n cadarnhau Covid fel ffactor sydd wedi cyfrannu at y farwolaeth.

Ond yng Nghymru caiff ei amcangyfrif mai Covid yw achos sylfaenol o gwmpas 85% o farwolaethau ble mae Covid yn cael ei gynnwys - felly mae'r marwolaethau hyn o ganlyniad i Covid.

Yn wahanol i adroddiadau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ffigyrau'r ONS yn cynnwys marwolaethau nid yn unig mewn ysbytai a rhai cartrefi gofal, ond hefyd mewn hosbisau a chartrefi pobl.

Pynciau cysylltiedig