Y Gynghrair Genedlaethol: Halifax Town 0-4 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Sgoriodd Jordan Davies hat-tric i Wrecsam yn ystod hanner cyntaf rhyfeddol yn erbyn tîm a ddechreuodd y noson safle uwch eu pennau yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
Cyn y gic gyntaf nos Fawrth, roedd Halifax yn seithfed, triphwynt uwchben Wrecsam, gyda gêm yn weddill.
Ond tîm Dean Keates sy'n seithfed bellach, ar wahaniaeth goliau - y ddau dîm â'r un nifer o bwyntiau, sef 50.
Daeth gôl gyntaf Davies wedi pedair munud o chwarae, a'r ail wedi 32 o funudau. Sgoriodd Dior Angus dair munud wedi hynny, cyn i Davies wneud hi'n yn 0-4 wedi 35 o funudau.
Roedd hynny'n ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam yn Stadiwm MBi Shay, a hynny ar ôl colli teirgwaith o'r bron yn y gynghrair.