Gwneud synnwyr o'r sbin mewn podlediad newydd am yr etholiad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Elliw Mai a Dafydd Morgan yn Sgwâr Canolog y BBC
Disgrifiad o’r llun,

Pandemig. Pegynau. Pleidlais Ifanc. Elliw Mai a Dafydd Morgan sy'n trafod etholiad Senedd Cymru fis Mai ym mhodlediad Cymru Fyw

Mae'r gair 'digynsail' wedi cael ei ddefnyddio yn aml i ddisgrifio'r flwyddyn ddiwethaf.

Heb os, mae hwn yn etholiad na welwyd ei debyg o'r blaen yng Nghymru.

Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd Dafydd Morgan a minnau yn mynd ati i drafod be' sy'n bwysig i chi, pam mae o'n bwysig, a be' hoffech chi weld Llywodraeth nesaf Cymru yn ei gyflawni?

Ond beth am y pynciau llosg 'na? Be' sy'n ein hannog ni i roi'n croes yn y bocs? A pham mae'r etholiad eleni mor wahanol?

Pandemig

Y gair ar wefusau pawb. Am y tro cyntaf ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy' bellach yn Senedd Cymru, fe bleidleisiodd Aelodau i gymeradwyo'r hawl i ohirio'r etholiad petae'n rhaid gwneud hynny, a hynny oherwydd sefyllfa Covid 19.

Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, bydd gofyn i lywodraeth nesaf Cymru arwain y wlad y tu hwnt i'r cyfyngiadau, at y 'normal newydd'.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,

Beth fydd y 'normal newydd' a'r cyfyngiadau dros y misoedd a blynyddoedd nesaf?

Â'r gwasanaeth iechyd yn gwegian, busnesau dan bwysau, ysgolion yn croesawu disgyblion yn ôl a chwricwlwm newydd ar y gweill, mae'n deg dweud fod Covid 19 yn bwrw'i gysgod dros y bleidlais eleni.

Pegynau

Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain? Yma yng Nghymru, mae dyddiau gwleidyddiaeth pedair plaid yn hen hanes, bellach.

Eleni, ag ymgyrch annibyniaeth i Gymru yn codi stêm, yn ogystal ag ymgeiswyr o blaid sydd â'i bryd ar ddiddymu'r Senedd yn llwyr, mae'r pegynau barn mor amlwg ag erioed.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Yr Etholiad ar 6 Mai fydd y chweched Etholiad Cyffredinol yng Nghymru ers y cyntaf yn 1999

Pwnc arall sy' dan yr un ymbarel, yw camwybodaeth, a sut mae gwahaniaethu rhwng manylion cywir, a'r hyn sy'n cael ei alw'n newyddion ffug.

Pleidlais ifanc

Am y tro cyntaf eleni, bydd hawl gan bobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio yng Nghymru.

Dyma bwnc arall sy'n hollti barn, ac fe fydd yn ddifyr gweld sut effaith gaiff y newid ar nifer y bobl sy'n bwrw pleidlais, yn ogystal ag i bwy fydd croes y bleidlais ifanc yn mynd?

Hefyd o ddiddordeb: