Cadw golwg ar Afon Dulais wedi damwain lori laeth
- Cyhoeddwyd
Mae bywyd gwyllt ar hyd afon yn Sir Gâr yn cael ei fonitro wedi i dancer ollwng miloedd o litrau o laeth iddi yn dilyn gwrthdrawiad.
Fe wnaeth dŵr Afon Dulais droi'n wyn wedi i'r lori adael yr A482 ger Llanwrda tua 12:30 ddydd Mercher a glanio ar ei hochr gan ollwng llaeth i Afon Dulais.
Chafodd neb anaf yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, ond bu'n rhaid i'r cyngor sir gau'r ffordd er mwyn symud y lori, oedd yn blocio rhan ohoni.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mae llaeth yn gallu bod hyd at saith gwaith yn fwy llygredig na slyri.
Dywedodd Ioan Williams o CNC: "Mae e'n tynnu'r ocsigen allan o'r dŵr, a hwnna'n meddwl wedyn fod dim ocsigen ar ôl i bethe fel pysgod ac unrhyw beth arall sy'n byw yn yr afon."
Ychwanegodd ei fod yn synnu nad ydy swyddogion wedi dod o hyd i bysgod marw eto, ond eu bod yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n fanwl.
Mae dŵr yr afon yn glir erbyn hyn yn safle'r gwrthdrawiad, ond mae yna adroddiadau bod llaeth yn teithio gyda'r afon at Afon Tywi - mewn ardal ger Llandeilo.
Bydd biolegwyr CNC yn monitro pryfed a chreaduriaid di-asgwrn-cefn ar hyd y dyfrffyrdd dros y penwythnos.
Mae yna apêl i bobl sy'n gweld unrhyw bysgod marw gysylltu â nhw.