Chwilio am le da am dro? Mae 'na grŵp all eich helpu...
- Cyhoeddwyd

Pauline Jones yn ymlacio tra'n cerdded y Glyderau - cyn rhannu'r daith ar dudalen Dro Da
Mae'r ddynes helpodd filoedd o Gymry i ddygymod â'r cyfnod clo cyntaf drwy gyd-ganu mewn grŵp Facebook nawr yn ceisio annog pobl i rannu llefydd da i fynd am dro wrth i'r clo diweddara' lacio.
Fel cymaint o bobl eraill, roedd Catrin Angharad Jones wedi dechrau cael llond bol ar gerdded yr un hen lonydd yn ei milltir sgwâr ac yn awyddus i ehangu ei gorwelion wrth i'r rheolau ar deithio llacio.
Ei phroblem: doedd hi ddim yn gwybod am lefydd da i fynd am dro tu allan i'w hardal oedd yn addas i fam gyda phlentyn ifanc a babi newydd mewn pram. Ei hateb: sefydlu grŵp Facebook i ofyn am awgrymiadau.

Catrin a'i theulu yn darganfod ardaloedd tu hwnt i Ynys Môn
Ac fel gyda'i thudalen Côr-ona ddechreuodd hi fis Mawrth llynedd, roedd yn amlwg o fewn dim bod ei bys ar bỳls y genedl.
O fewn wythnos roedd Dro Da, dolen allanol wedi denu 6,000 o ddilynwyr a oedd yn rhannu cylchdeithiau a chyngor o bob math.

Un o'r aelodau yn rhannu taith sy'n addas i blant - ond gyda gwaith dringo i gopa bryn Pen-y-Gogarth ger Llandudno
"Nes i ddechrau am reswm hunanol - fy anwybodaeth i o lefydd eraill heblaw Ynys Môn i fynd am dro efo'r plant," meddai Catrin 'Toffoc'.
"Ond be' sy'n grêt ydi bod pobl yn rhannu gwahanol fathau o bethau - dim jest dro i bobl fel fi sydd efo pram, ond yn rhannu taith sy'n her i bobl sy'n mynydda, neu dro sy'n bosib ei wneud efo cadair olwyn, neu un addas i gŵn - felly mae o wedi datblygu yn barod.

Taith heriol - a chyngor defnyddiol
"Nes i fynd i Ben Llŷn dros y Pasg, i ochrau Sarn, a'r cwbl ro'n i'n gorfod gwneud oedd rhoi #PenLlŷn a #pram ar y dudalen a ges i restr o lefydd i fynd efo plant ac yn addas efo pram.
"Faswn i'n gallu gŵglo ond tydi o ddim yr un peth â rhywun sy'n adnabod yr ardal yn iawn ac yn dweud pethau defnyddiol fel - 'mae yna doilet ond cofia ti angen 10c'.
"Mae cael gwybodaeth berthnasol fel yna yn gwneud hi'n llai o risg mynd i rywle i rywun fel fi sy'n gorfod cael dau fach i'r car a gyrru efo nhw am awr i rywle… os nad oes 'na lôn go lew i bram ar ôl cyrraedd mae o wedi canu arnaf i."

Peidiwch â cherdded y daith yma gyda phram... taith pedol Elidir Fawr gan Elin Prysor
Mae'r aelodau yn defnyddio'r wefan i gofnodi manylion a lluniau eu teithiau diweddar ac i holi eraill am lefydd da i gerdded mewn ardaloedd penodol.
Gobaith Catrin, sy'n dal yn gyfrifol am dudalen Côr-ona - sydd bellach gyda 46,000 o aelodau - ydi cael mwy o aelodau ar draws Cymru er mwyn cael teithiau ym mhob cwr o'r wlad.
Hefyd o ddiddordeb: