Ysgol y Strade: Golwg ar yr wythnos gyntaf yn ôl
- Cyhoeddwyd
"Mae'r normalrwydd, hynny yw beth yw normalrwydd i Ysgol y Strade bellach, wedi dychwelyd yn gymharol hwylus," medd y Dirprwy Bennaeth, Adam Powell, wedi i bawb ddychwelyd i'r ysgol uwchradd yn Llanelli yr wythnos hon.
Roedd rhai o'r disgyblion, heblaw am ddiwrnod cyn y Pasg, wedi bod allan o'r stafell ddosbarth ers dechrau mis Rhagfyr.
Ond nawr, ar ôl gwyliau'r Pasg, mae plant o bob oed ar draws Cymru nôl yn yr ysgol yn llawn amser.
"Ffrindiau - definitely ffrindiau," meddai Betsan, 13, sy'n ddisgybl ym mlwyddyn 8 wrth sôn am y peth gorau am fod nôl.
Ac mae Ianto, 12, yn cytuno.
"Mae'n dda gallu bod nôl a gweld pawb eto."
Wedi diwrnod i athrawon baratoi ar ddydd Llun, roedd Ianto a Betsan ymhlith y 1,200 o ddisgyblion lifodd drwy'r gatiau fore Mawrth.
"Fi'n gobeithio nawr bo fi'n mynd nôl i ysgol, bod na rhyw strwythur i be fi'n 'neud drwy'r amser a bod pethe'n gallu bod yn iawn am weddill y flwyddyn," dywedodd Ianto.
"Mae'n anoddach nawr gyda mygydau'n y dosbarth trwy'r dydd - ond bydd e'n iawn, bydd e'n iawn erbyn diwedd yr wythnos," meddai Betsan.
"Dwi'n gobeithio byddai'n 'neud yn dda ac yn copio'n yr ysgol," ychwanegodd.
Y normal i'r ysgol hon bellach ac ysgolion uwchradd eraill Cymru yw grwpiau cyswllt, systemau un ffordd a diheintio.
Ers i'r broses raddol o groesawu plant yn ôl ddechrau fis diwethaf, rhaid i'r disgyblion wisgo gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth - nid dim ond mewn coridorau.
Ac mae disgyblion blwyddyn 10 a hŷn wedi bod yn gwneud profion Covid cyflym adre.
Yr wythnos hon cyhoeddwyd byddai hynny'n cael ei ymestyn i flynyddoedd iau ysgol uwchradd hefyd.
Ymateb 'gwych'
Mae'r ymateb wedi bod yn "wych" meddai'r dirprwy, Adam Powell, "a'r plant wedi dangos cryn aeddfedrwydd".
Dywedodd bod nerfusrwydd ymhlith y plant a'r staff wrth iddyn nhw ddychwelyd ond roedd yn disgwyl y byddai hynny'n diflannu o fewn ychydig oriau o fod ar y safle.
Y nod dros y dyddiau ac wythnosau nesa yw cyfuno gofynion addysgiadol a lles.
"Ry'n ni'n edrych ar ein darpariaeth ni, edrych ar fel ry'n ni'n gallu bwrw'r cydbwysedd rhwng sicrhau bod y plant yn gwneud y cynnydd academaidd ond hefyd bod ni'n rhoi amser iddyn nhw ymsefydlu ac amser iddyn nhw ddod nôl mewn i'r arfer o siarad gyda'u cyfoedion nhw a siarad gyda'r staff," meddai.
Y pennaeth cynorthwyol, Heulwen Jones, sy'n gyfrifol am les yn Ysgol y Strade ac mae'n dweud bod profiad pob plentyn o'r cyfnod clo wedi bod yn wahanol.
Roedd rhai wedi ffynnu a mwynhau gweithio adre, eraill wedi wynebu heriau ac wrth iddyn nhw ddychwelyd mae yna faterion gwahanol yn codi.
"Mae ambell blentyn sy ddim wedi cymdeithasu gyda'u ffrindiau ar-lein tra bo nhw adre yn ei gweld hi'n anodd i setlo nôl, mae rhai wedi aeddfedu lot dros y cyfnod clo a falle bod eu cylch ffrindiau nhw wedi newid," meddai.
"Mae rhai eraill falle heb gefnogaeth i 'neud eu gwaith gartef - ma sefyllfa pawb yn wahanol - efallai bo ambell un ohonyn nhw yn pryderu am ddychwelyd achos bo nhw ddim wedi cyflawni pob darn o waith.
"Ond beth yw hi nawr yw llechen lân i bawb a ni'n dechrau o'r dechrau fel petai."
Un teulu mawr
Dywedodd bod angen cefnogi lles y disgyblion a'r staff am gyfnod hir.
"Un o'r pethau mwyaf positif o'r cyfnod clo yma yw'r ymdeimlad o deulu a fi'n credu bod y cyfathrebu rhwng yr ysgol a'r cartref wedi cryfhau ers y cyfnod clo," meddai.
"Ma pawb wedi bod yn gweithio 'da'i gilydd, ma hwnna'n rhywbeth positif ac yn rhywbeth ma ishe i ni barhau gyda.
"Ydy mae'r ochr academaidd yn hynod o bwysig ond nes bo ni'n neud yn siŵr bod y plant yn iawn, ac yn y lle cywir ac yn barod i weithio - hwnna yw'r flaenoriaeth."
I'r disgyblion sy'n astudio TGAU, AS a Safon Uwch mae 'na brofion pwysig wedi dechrau yn syth ar ôl y Pasg fydd yn cyfrannu at eu graddau terfynol.
Mae Sioned, 18 oed, yn astudio Safon Uwch yn Bioleg, Cemeg a Mathemateg ac wedi gwneud rhai asesiadau wythnos yma.
"Cyn dod nôl roedd lot o ansicrwydd, felly mi o'n i'n pryderu a bach yn ofnus am yr asesiadau - beth fydde nhw'n edrych fel, faint fydde ni'n neud - ond mae'r cymorth a'r gefnogaeth wedi bod gan yr ysgol a'n hathrawon - felly ma' hwnna wedi helpu da'r baich llawer," dywedodd.
Mae Ffion, 16, yn astudio AS Bioleg, Cemeg a Busnes.
"Ers cyn Pasg o'n i ddim ond mewn am ddau ddiwrnod a wedyn fi nôl llawn amser yn syth mewn i asesiadau felly ma fe wedi bod yn straenus.
"Ond yn y pendraw bydd e gyd o werth achos pan fyddai'n cael y graddau, fi di haeddu fe yn lle algorithm llynedd, fi'n dweud 'gwaith fi yw hwn, fi'n haeddu fe'."
Felly, erbyn diwedd yr wythnos beth oedd barn Mr Powell am yr wythnos gyntaf lawn yn ôl?
"I fod yn deg mae'r plant wedi bod yn wych, mae'r disgyblion hŷn sydd wedi bod yn wynebu eu hasesiadau nhw wedi delio gyda'r sefyllfa mewn ffordd aeddfed iawn ac wedi ymdopi'n wych ac mae'r plant ifanc hefyd blynyddoedd 7, 8 a 9 wedi dod nôl i'r strwythur yn gymharol hwylus a fi'n credu bod pawb yn mwynhau bod nôl ar y safle."
'Wythnos dda mor belled'
A beth am Ianto a Betsan?
Yn ystod saib o'i gêm o rounders mewn gwers ymarfer corff roedd Ianto'n bositif.
''Nawr bo ni wedi gallu dod nôl i'r ysgol, mae popeth wedi dechrau setlo lawr - mae pawb yn gallu mynd nôl i beth o'n nhw'n arfer 'neud cyn lockdown a mae'n dda gallu dod nôl a gweld pawb eto," meddai.
Gyda'r tywydd yn cynhesu mae gwisgo mwgwd yn y stafell ddosbarth wedi bod yn heriol i Betsan ond mae gweld ffrindiau yn codi ei chalon.
"Mae'n well cael sgwrs 'da nhw'n bersonol na dros y ffôn - mae wedi bod yn wythnos dda mor belled."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021