Cyflymu'r rhaglen o lacio cyfyngiadau Covid yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Dywedodd Mark Humphreys o Enzone Fitness ym Mangor bod y newyddion yn "newid positif ond dim be' 'dan ni isio"
Bydd pobl Cymru'n cael ffurfio aelwydydd estynedig ac ymweld â'r gampfa wythnos yn gynt na'r disgwyl yn dilyn cyhoeddiad gan y prif weinidog.
Fe fydd campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael ailagor i unigolion neu hyfforddiant un-am-un o ddydd Llun, 3 Mai.
Bydd dwy aelwyd yn cael cwrdd o dan do o'r dyddiad hwnnw hefyd wrth i nifer yr achosion newydd o Covid barhau i ddisgyn.
Gall gweithgareddau awyr agored sydd wedi'u trefnu, a phriodasau awyr agored ddigwydd o 26 Ebrill yn hytrach na 3 Mai.
Dywedodd Mark Drakeford: "Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethom amlinellu ein rhaglen i agor yr economi a llacio'r cyfyngiadau rydym wedi bod yn byw gyda nhw cyhyd, fel rhan o'n dull gofalus a graddol sydd â'r nod o gadw pawb yn ddiogel.
"Yr wythnos hon, oherwydd y gwelliannau rydym yn parhau i'w gweld, rydym yn gallu rhoi rhai o'n cynlluniau ar waith yn gynt."

Daeth cyhoeddiad Mark Drakeford yn hwyr nos Iau
Mae nifer yr achosion wedi disgyn o 37 person am bob 100,000 o'r boblogaeth yr wythnos ddiwethaf i lai na 21 yr wythnos hon.
Mae nifer yr achosion mewn ysbytai yn 26% yn is na dydd Iau diwethaf - y nifer isaf ers 22 Medi 2020.

Y rheolau newydd yn llawn
Dydd Llun 12 Ebrill:
Bydd plant yn dychwelyd i'r ysgol yn llawn ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgolion yn gallu agor ar gyfer cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr;
Bydd gweddill y siopau yn ailagor, gan gwblhau'r broses raddol o ailagor busnesau sy'n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol;
Bydd gweddill y gwasanaethau cysylltiad agos yn ailagor, gan gynnwys gwasanaethau symudol;
Bydd y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae'r cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae'r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;
Bydd hawl i fynd i weld lleoliadau priodas, drwy apwyntiad;
Bydd y cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi, ond bydd gofyn i ganfaswyr wneud hynny mewn modd diogel.
Dydd Llun 26 Ebrill:
Byddai atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor;
Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch o dan do yn parhau i fod ar gau, heblaw ar gyfer bwyd i'w gludo oddi yno;
Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai);
Gellir cynnal derbyniadau priodasau yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi'u cyfyngu i 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai).
Dydd Llun 3 Mai (ddydd Llun 10 Mai yn wreiddiol):
Caiff campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff;
Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do.
Fel y nodwyd yn y Cynllun Rheoli'r Coronafeirws diwygiedig, mae nifer fach o gynlluniau peilot ar gyfer digwyddiadau awyr agored i rhwng 200 a 1,000 o bobl yn cael eu cynllunio hefyd.


Bydd hawl gan bobl yng Nghymru i ddychwelyd i'r gampfa o 26 Ebrill
Beth ydy ymateb y pleidiau?
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae rhaglen frechu wych Prydain yn amddiffyn mwy a mwy o fywydau bob dydd ac yn rhoi'r gallu inni adfer rhyddid mewn modd diogel ond cyflymach.
"Mae pwysau gan y cyhoedd a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gorfodi gweinidogion Llafur i weithredu, ond mae mwy y gallan nhw ei wneud o hyd wrth gyflymu'r map ffordd gydag ailddechrau gweithgareddau fel lletygarwch awyr agored a champfeydd yn ddiogel.
"Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig fap ffordd manwl allan o'r clo i roi stop ar gemau gwleidyddol Llafur, i amddiffyn bywydau trwy frechu, ac yn bwysig, i gael Cymru ar y ffordd i adferiad."
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwyso am gael ailagor campfeydd mor gyflym ac mor ddiogel â phosib oherwydd eu bod yn hanfodol i iechyd meddwl a lles pobl.
"Er bod y dyddiad newydd hwn i'w groesawu, nid yw'n ddigon cynnar o hyd.
"Mae golygfeydd yfed heb ei reoleiddio dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn destun pryder difrifol a bydd llawer yn cwestiynu penderfyniad y Llywodraeth Lafur i beidio â symud ailagor lletygarwch awyr agored yn ei flaen. Wedi'r cyfan, mae amgylchedd yfed wedi'i reoleiddio yn opsiwn gwell a mwy diogel.
"Yn yr un modd, mae'r diffyg dyddiad clir ar letygarwch dan do yn parhau i fod yn broblem fawr ac o leiaf dylai'r llywodraeth ailedrych ar frys ar ei phenderfyniad i ohirio unrhyw gymorth ariannol ychwanegol tan ar ôl yr etholiad."
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Mae hyn yn newyddion i'w groesawu.
"Mae campfeydd a chanolfannau ffitrwydd yn chwarae rhan bwysig yn iechyd corfforol a meddyliol cymaint o bobl ar draws Cymru.
"Mae pawb sydd wedi glynu at y rheolau wedi chwarae rhan i ddod â'r cyhoeddiad yma ymlaen.
"Ond rhaid i'r cyhoedd hefyd gofio nad yw'r feirws wedi mynd a bod angen iddyn nhw gadw at reolau parthed pellter cymdeithasol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2020