Disgyblion ar draws Cymru yn dychwelyd i'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Bydd disgyblion ar draws Cymru yn dychwelyd i gael addysg wyneb yn wyneb ddydd Llun - dyma'r tro cyntaf eleni y bydd disgyblion o bob blwyddyn yn yr ysgol gyda'i gilydd.
Mae plant rhwng tair a saith oed wedi bod yn ôl yn yr ysgol ers ddiwedd Chwefror ac ym mis Mawrth fe aeth gweddill disgyblion cynradd Cymru yn ôl i'r ysgol ynghyd â disgyblion uwchradd sy'n gwneud arholiadau TGAU a Safon Uwch.
Roedd gan ysgolion hefyd yr hyblygrwydd i gael disgyblion blwyddyn 10 a 12 yn ôl, tra'n cynnig sesiynau lles i blant blynyddoedd 7, 8 a 9.
'Hapus a phryderus'
"Mi fydd hi'n rhyfedd," medd Elin Mabbutt o Aberystwyth, "gweld y tri yn mynd nôl heddi. Bydd hi'n hynod o dawel yma a dwi'm yn gwybod shwt mae pawb yn mynd i godi!"
Mae gan Elin a'i gŵr Jeremy dri o blant - Alis ym mlwyddyn 7, Elan ym mlwyddyn 8 ac Ioan ym mlwyddyn 9.
"Ychydig iawn mae nhw wedi bod yn yr ysgol - dim ond ar gyfer y diwrnodau lles. Mae nhw'n edrych ymlaen yn fawr iawn i fynd i weld eu ffrindiau.
"Mae dysgu ar-lein wedi bod yn iawn - yn fwy anodd i flwyddyn 7 rwy'n credu gan bod nhw wedi colli diwedd blwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd a ddim wedi bod rhyw lawer yn yr ysgol uwchradd o gwbl.
"Ond er bo fi'n falch bo nhw'n mynd nôl a bo nhw'n hapus mae'n rhaid i fi ddweud fy mod i bach yn bryderus.
"Fy hun, ac rwy'n ymwybodol nad yw fy mhlant i yn 'neud arholiadau allanol, byddai'n well gen i eu bod yn aros adre tan fis Medi.
"Dwi i na'm cyfoedion ddim wedi cael y brechlyn ac y mae hynny'n wir am lot o'r athrawon hefyd.
"Be all ddigwydd yw bod rhaid i rai hunan-ynysu eto ac mae hynna'n siop siafins wedyn. Mae'n anodd iawn i athrawon ddysgu wyneb yn wyneb a rhoi gwersi ar-lein.
"Mae hi mor bwysig bod pawb yn saff."
'Angen sicrhau cyfle da i bawb'
Dywed Pennaeth Ysgol Bryn Tawe, Simon Davies, ei fod yn hapus "fod y disgyblion yn gallu dod 'nôl i'r ysgol o ddydd Llun ymlaen i gael bach o normalrwydd yn eu bywydau".
"Mae pob blwyddyn wedi bod mewn cyn y Pasg ond ddim gyda'i gilydd - nawr bydd gennym amser i ganolbwyntio ar yr ysgol gyfan.
"Yn amlwg mae rhai plant wedi delio yn well nag eraill gydag addysg ar y we, a'r hyn fydd yn bwysig nawr yw cefnogi'r rhai sydd wedi gweld hi'n anodd astudio dros y cyfnod ansicr yma.
"Gyda'r asesiadau ac arholiadau yn newid eleni eto mae hi dal yn mynd i fod yn gyfnod eitha' anodd ond bydd yna groeso i bawb o ddydd Llun ymlaen a'r hyn fydd yn bwysig yw sicrhau fod pawb yn cael y cyfle gorau."
Ychwanegodd ar raglen Dros Frecwast fore Llun bod pob disgybl wedi cael gyfle i fynd i'r ysgol cyn y Pasg fel bod "pawb yn glir ar y disgwyliadau unwaith eto wedi bod mas o'r ysgol am gyfnod mor hir cyn hynny".
"Mae llawer o waith paratoi wedi mynd mewn i gael popeth yn barod ac mae'r staff wedi bod yn gweithio'n galed, nid dim ond yn paratoi ond hefyd wrth ddysgu'r plant o adref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021