Annog merched i barhau i gymryd y bilsen atal cenhedlu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llun o Lara HillFfynhonnell y llun, Lara Hill
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lara Hill y dylai merched allu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ynglŷn â dulliau atal cenhedlu

Mae menywod yn cael eu hannog i beidio â rhoi'r gorau i gymryd y bilsen atal cenhedlu ar ôl i frechlyn Covid sbarduno pryderon am geuladau gwaed.

Mae swyddogion iechyd wedi dweud bod y bilsen yn rhedeg risg o geuladau gwaed, ond yn amddiffyn diogelwch brechlyn AstraZeneca.

Mae rhai menywod yn honni na chawson nhw wybod am risgiau gan feddygon teulu, ac maen nhw wedi galw am welliannau i wasanaethau atal cenhedlu.

Yn ôl arbenigwr iechyd rhyw blaenllaw, mae'r risg o'r bilsen yn isel.

Dywedodd Dr Jane Dickson, ymgynghorydd mewn Gofal Iechyd Atgenhedlol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Y peth olaf yr ydym eisiau yw i fenywod stopio cymryd eu pilsen a chael pill scare fel bod gennym lu o achosion o feichiogrwydd di-angen.

"Ni fyddwn yn argymell i unrhyw un stopio'u pilsen heb drafod â'u gweithiwr iechyd proffesiynol yn gyntaf."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Fe wnaeth adolygiad gan Medicines and Healthcare products Regulatory Agency (MHRA) ddarganfod bod 79 o bobl, erbyn ddiwedd mis Mawrth, wedi dioddef ceuladau gwaed ar ôl cael y brechlyn AstraZeneca yn y DU - bu farw 19 ohonynt.

Roedd hyn allan o 20 miliwn o ddosau a cafodd eu gweinyddu - gan roi risg o tua phedwar mewn 1,000,000 o ddatblygu ceulad gwaed, ac un mewn 1,000,000 o farw.

Mae arbenigwyr iechyd, gan gynnwys pennaeth rhaglen frechu Cymru, wedi mynnu bod y brechlyn yn ddiogel, gan egluro bod meddyginiaethau eraill fel y bilsen atal cenhedlu yn cario risg o geuladau gwaed.

Mae'r Unol Daleithiau, De Affrica a'r Undeb Ewropeaidd bellach wedi rhoi stop dros dro ar weinyddu brechlyn Covid Johnson & Johnson yn dilyn adroddiadau am geuladau gwaed prin.

Mae hyn wedi sbarduno pryderon gan rai menywod sy'n cymryd y bilsen, sydd wedi honni ar cyfryngau cymdeithasol na chawsant eu rhybuddio am sgil-effeithiau fel ceuladau gwaed posibl gan eu meddyg teulu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr iechyd wedi defnyddio sgil-effeithiau posibl y bilsen i bwysleisio diogelwch y brechlyn yn dilyn cysylltiadau â cheuladau gwaed

Rhagnodwyd y bilsen gyfun 180,628 o weithiau yng Nghymru yn 2019-20, o'i chymharu â'r IUD progesteron yn unig a ragnodwyd 6,131 o weithiau.

Dywedodd Dr Dickson, is-lywydd y Gyfadran Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, fod y risg o ddatblygu ceulad gwaed wrth gymryd y bilsen gyfun yn gymharol isel.

"Pe na bai menyw yn cymryd y bilsen, byddai ei risg o geuladau gwaed o ddeutu dau mewn deg mil. Pe bai hi yn cymryd y bilsen, byddai ei risg rhwng 5 a 10 mewn 10,000," meddai.

'Ni chefais wybod am y risgiau'

Ffynhonnell y llun, Lara Hill
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lara nad oes digon o drafodaeth am sgil-effeithiau'r bilsen atal cenhedlu

Saith mlynedd yn ôl cafodd Lara Hill ei rhoi ar y bilsen i ddelio â'i mislifoedd trwm a phoenus.

"Ni chefais wybod am y risgiau a dim ond pan ddaeth y drafodaeth o amgylch brechlynnau Covid i'r amlwg 'nes i eu darganfod," meddai.

Dywedodd Lara er bod sgil-effeithiau'r brechlyn Covid wedi cael cyhoeddusrwydd da ei bod yn annheg bod llawer o fenywod yn gorfod gwneud penderfyniadau mawr heb yr holl wybodaeth, ac nad oedd neb yn siarad amdano.

"Rwy'n deall pam fod pryder am y brechlyn oherwydd yn amlwg mae unrhyw frechlyn newydd am fod yn ddadleuol, ac mae'n rhaid ystyried y risg," meddai.

"Mae'n teimlo'n annheg bod cymaint o ferched ifanc yn cael cynnig y bilsen heb lawer o drafodaeth am y sgil-effeithiau.

"Ond eto, pan mae rhywbeth mor hanfodol bwysig â brechlyn ar gael, mae'r sgil-effeithiau'n cael eu cymryd yn fwy difrifol er gwaethaf y ffaith bod y risg yn is."

'Annheg'

Dywedodd Lara bod y sylw meddygol a chyfryngol yn yr ymateb i bryderon am geuladau gwaed AstraZeneca o'i gymharu â'r diffyg trafodaeth am opsiynau eraill i'r bilsen yn annheg.

Ychwanegodd: "Mae cymaint o ferched yn cymryd y bilsen ac wedi bod am amser hir iawn, ond nid oes unrhyw un wedi codi'r mater na'i drafod fel yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r brechlyn."

Dywedodd Dr Dickson mai'r rheswm fod y bilsen yn boblogaidd yw oherwydd ei bod yn caniatáu mwy o reolaeth, a bod menywod yn hoffi "cynefindra" y bilsen atal genhedlu gyfun.

Fodd bynnag, dywedodd Jane Dickson mai newydd-deb y brechlyn, ynghyd ag ymdrechion y rhai sy'n ceisio tawelu meddwl y cyhoedd, yw'r rhesymau pam fod y brechlyn AstraZeneca yn cael cymaint o sylw:

"Mae'r brechlyn AstraZeneca yn beth newydd ac mae'r math penodol hwn o geulad gwaed rydyn ni'n ei weld, does neb yn gwybod yn iawn sut mae'r ceulad gwaed yn cael ei ffurfio. Mae'n hynod o brin ac mae'n fath gwahanol o geulad rydyn ni'n ei weld yn gysylltiedig ag atal cenhedlu cyfun.

"Mae'r bobl hynny sy'n ceisio tawelu meddyliau am ddiogelwch y brechlyn AstraZeneca wedi dibynnu ar risgiau cyffredin bob dydd sy'n gysylltiedig â cheuladau gwaed fel bod ar y bilsen, ac maen nhw'n dweud bod hyn i gyd yn risg llawer uwch na'r brechlyn AstraZeneca."

Ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai pawb, gan gynnwys pobl sy'n cymryd y bilsen, dderbyn y cynnig i gael brechlyn Covid-19, gan annog pobl i beidio ag oedi i aros am fath penodol o frechlyn.

"Fel rhagofal, dylai pobl ofyn am gyngor meddygol prydlon os ydyn nhw'n profi unrhyw un o'r symptomau canlynol o bedwar diwrnod i bedair wythnos ar ôl derbyn brechiad Covid-19: cur pen difrifol newydd sy'n gwaethygu wrth orwedd neu blygu drosodd ac weithiau gyda symptomau eraill, cleisio neu waedu pin prick anesboniadwy, diffyg anadl, poen yn y frest, coesau wedi chwyddo, neu boen parhaus yn yr abdomen," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig