Un achos o geulad gwaed wedi brechlyn AstraZeneca

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechlyn AZ

Mae un achos wedi ei gofnodi yng Nghymru o berson yn datblygu ceulad gwaed prin ar ôl derbyn brechlyn AstraZeneca, yn ôl pennaeth y rhaglen frechu yng Nghymru.

Dywedodd Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru bod yna "un achos cadarn" a dim marwolaethau.

Ddydd Mercher, fe wnaeth rheoleiddiwr meddyginiaethau'r DU, yr MHRA, gynghori y dylid cynnig un o'r brechlynnau eraill i bobl dan 30 oed oherwydd tystiolaeth sy'n cysylltu'r brechlyn AstraZeneca â chyflwr ceulo'r gwaed.

Daeth adolygiad yr MHRA i'r casgliad bod 79 o bobl wedi dioddef ceulad gwaed prin ar ôl cael eu brechu erbyn diwedd Mawrth, a bod 19 o'r rheiny wedi marw.

Pan ofynnwyd ynghylch manylion unrhyw achosion perthnasol yng Nghymru, atebodd Dr Roberts: "Y'n ni'n gw'bod bod un achos hefo'r ceulad gwaed ma' wedi digwydd yng Nghymru, so un achos cadarn a dim marwolaethau. Dyna'r ffigyrau ar gyfer Cymru ar hyn o bryd."

'Dal yn ddiogel i'r rhai dros 30'

Ychwanegodd bod y brechlyn AstraZeneca yn dal yn ddewis diogel i bobl sy'n 30 oed neu'n hŷn, ond bod pwyso a mesur y risgiau i bobl iau'n golygu y dylid rhoi brechlyn arall iddyn nhw.

Pwysleisiodd bod y brechlyn AstraZeneca "yn ddiogel i bawb sydd dros 30 na sydd â chyflyrau iechyd tymor hir".

"I'r bobol sy'n derbyn brechlyn [AstraZeneca] nawr yn eu 40au ac yn eu 50au, mae'r cyfartaledd cydbwyso risgiau a buddion yn drwm iawn ar ochor y buddion," meddai.

"Os bysech chi, er enghraifft, yn meddwl am miliwn o bobol yn eu 40au, petawn nhw i gyd yn dal Covid mi fysa mil o farwolaethau yn ogystal â phobol sy'n gorfod mynd i'r ysbyty a dros 150,000 o achosion Covid tymor hir.

"Ma' rhaid i chi roi hwnna yn erbyn y risg o un o bob miliwn o farwolaethau o achos y ceulo gwaed prin, prin iawn ma' yn y gwythienne yn y pen."

Dywedodd Dr Roberts y bydd pobl dan 30 oed sydd heb gael cynnig brechlyn hyd yn hyn - unigolion â chyflyrau iechyd blaenorol a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol - yn cael brechlyn Pfizer neu Moderna yn hytrach.

Mae disgwyl i'r ymgyrch frechu gyrraedd y grŵp yma "ym mis Mehefin neu mis Gorffennaf".

Dywedodd hefyd bod meddyginiaethau eraill, gan gynnwys y bilsen atal cenhedlu, â risg o achosi ceulad gwaed.

"Mae'n rhaid i ni dderbyn na allan ni ga'l rhywbeth sy'n effeithiol a dim risg o gwbwl," meddai. "Gall dim byd bod yn 100%, felly mae'n bwysig derbyn rhai risgiau ar gyfer ca'l y buddion."

Pynciau cysylltiedig