Cefnu ar garafanau teithiol wedi 'dinistrio' parc gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion un o barciau gwyliaf hynaf de Cymru yn dweud bod eu cymuned wedi'i "dinistrio" ar ôl i berchnogion newydd benderfynu dod ag ochr carafanau teithiol y busnes i ben a gofyn i drigolion oddeutu 80 o garafanau i adael.
Cafodd Parc Carafanau Happy Valley yn Wig-Fach ger Porthcawl ei brynu y llynedd gan RoyaleLife, un o gwmnïau parciau gwyliau mwyaf y wlad.
Mewn ebost at drigolion y safle, dywedodd y cwmni ei fod wedi penderfynu "terfynu'r adran carafanau teithiol ar gyfer y tymor sydd i ddod gan fod y cwmni yn gwneud cynlluniau ar gyfer datblygu'r safle yn y dyfodol".
"Bydd unrhyw ffioedd a dalwyd o flaen llaw i ddeiliaid blaenorol yr adran deithiol yn cael eu had-dalu'n llawn gan RoyaleLife," meddai'r ebost.
Trallod enfawr
Dywedodd Mathew Jones o Lyn Ebwy bod y penderfyniad i ddod ag ochr deithiol y parc i ben wedi achosi trallod enfawr i lawer o bobl a oedd wedi treulio penwythnosau a gwyliau yn y parc gyda theulu a ffrindiau dros y blynyddoedd - gan gynnwys nifer o aelodau o deulu ei hun.
Roedd gan ei nain a'i daid, ei fam a'i fodryb garafanau ar y safle am dros ddau ddegawd.
"Mae'r carafanau wedi dod yn ail gartrefi i bobl a dyna beth dydy RoyaleLife ddim yn ei ddeall," meddai.
"Maen nhw wedi dinistrio rhywbeth mae fy nain a fy nhaid a fy rhieni wedi'i adeiladu dros 20 o flynyddoedd... doedd e ddim yn neis."
Nid oedd rhai o'r preswylwyr yn gallu symud eu faniau i safle newydd - naill ai oherwydd nad oedden nhw'n gallu dod o hyd i leoliad newydd, neu oherwydd ei bod yn rhy ddrud i sicrhau bod y faniau yn gyfreithlon i fod ar y ffordd.
Mae rhai hyd yn oed yn honni eu bod wedi eu gorfodi i'w gwerthu neu eu sgrapio.
Dywedodd RoyaleLife: "Rhoddwyd rhybudd i berchnogion y carafanau teithiol adael y safle o fewn amserlen y cytunwyd arni â swyddfa'r safle.
"Mae RoyaleLife yn anghytuno gydag unrhyw awgrym bod perchnogion wedi cael unrhyw derfyn amser."
Pryderon am ddyfodol rhan arall o'r safle
Mae pryderon bellach yn tyfu ymhlith y preswylwyr sy'n berchen ar, neu'n rhentu, mwy na 200 o garafanau statig mewn rhan arall o'r safle.
Mae nifer o'r preswylwyr wedi cael cartref gwyliau yn Happy Valley am dros 20 mlynedd, ac mae rhai wedi bod yn y carafanau statig yn barhaol.
Dywedodd un fenyw, nad oedd yn dymuno cael ei henwi, bod perthynas iddi sy'n byw yno wedi mynd yn sâl oherwydd y pryder am ei dyfodol yn Happy Valley.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Wrth symud ymlaen, bydd RoyaleLife yn buddsoddi'n sylweddol yn y lleoliad sydd heb ei gyffwrdd i raddau am 60 mlynedd - gan wella'r isadeiledd a'r cyfleusterau ar gyfer y preswylwyr parhaol a'r rhai sy'n aros mewn cartrefi gwyliau i ddod â'r cynllun i safon RoyaleLife."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018