Diwrnod anodd i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Roedd ail ddiwrnod y gêm bencampwriaeth yn erbyn Sussex yn waith caled i Forgannwg.
Fe ddechreuodd yr ymwelwyr y diwrnod ar 99 heb golled, ac er i Michael Hogan gipio wiced gynnar, daeth hynny â Stiaan van Zyl i'r canol i ymuno gyda Tom Haines.
Daeth partneriaeth lewyrchus rhwng y ddau cyn i Hogan eto gipio wiced Haines, ond roedd batio Sussex yn gryf drwy'r dydd.
Sgoriodd van Zyl 113 a George Garton 97 wrth iddyn nhw basio cyfanswm Morgannwg yn hawdd a chyrraedd 481 am naw wiced erbyn i'r chwarae ddod i ben.
Bydd Morgannwg yn gobeithio cipio'r wiced olaf yn gynnar fore Sadwrn, ac yn cael ail fatiad da i osod targed cystadleuol i Sussex.
Michael Hogan oedd bowliwr gorau Morgannwg gan gipio tair wiced am 46 rhediad.
Morgannwg (batiad cyntaf) = 285
Sussex (batiad cyntaf) = 481 am 9 - mantais o 196
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2021