Y Teulu Brenhinol yn cofio bywyd Dug Caeredin
- Cyhoeddwyd
Mae Dug Caeredin wedi cael ei roi i orffwys mewn angladd yng Nghapel San Siôr.
Talodd Deon Windsor deyrnged i'r Tywysog Philip, gan gyfeirio at ei "deyrngarwch diwyro i'r Frenhines" a'i "wasanaeth i'r genedl".
Roedd y gynulleidfa yn gwisgo masgiau ac roedden nhw wedi'u pellhau'n gymdeithasol yn unol â rheolau Covid, gyda'r Frenhines yn eistedd ar ei phen ei hun.
Cyn hynny, bu aelodau o'r Teulu Brenhinol yn cerdded y tu ôl i arch Dug Caeredin mewn gorymdaith.
Ei blant - y Dywysoges Anne a'r Tywysog Charles - oedd yn y rheng flaen, ac yna'r Tywysog Edward a'r Tywysog Andrew.
Yn y drydedd res, cerddodd y Tywysog William a'r Tywysog Harry y naill ochr i'w cefnder Peter Phillips.
Roedd cysylltiad y Tywysog Philip â'r Llynges Frenhinol a'i gariad at y môr yn ganolbwynt i'r seremoni yng Nghastell Windsor.
Ond nid oedd pregeth, yn unol â'i ddymuniadau.
Roedd mwy na 730 aelod o'r lluoedd arfog yn cymryd rhan yn y digwyddiad, ond roedd cyfyngiad o 30 o alarwyr yn y capel, o dan reolau Covid.
Roedd munud cenedlaethol o dawelwch am 15:00.
Bu farw'r Tywysog Philip yng Nghastell Windsor ddydd Gwener 9 Ebrill, yn 99 oed.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd ei gorff yn gorffwys yn y capel preifat yng Nghastell Windsor cyn cael ei symud i Fynedfa'r Wladwriaeth.
Cafodd ei arch ei gosod ar Land Rover wedi'i addasu - un a helpodd y dug ei hun i'w ddylunio - ac yna'i chario mewn gorymdaith byr i Gapel San Siôr.
Wrth siarad ar raglen arbennig Newyddion S4C wedi'r gwasanaeth, dywedodd yr hanesydd Hefin Mathias fod "mawrdra'r capel yn tanlinellu pa mor fach oedd y gynulleidfa".
"Ond ar yr un pryd," meddai, "mewn ffordd eironig, mi oedd 'na ystyr dyfnach ac o'n i'n teimlo bod 'na urddas arbennig a sylwedd mawr iawn yn perthyn i'r gwasanaeth.
"Oedd e'n wasanaeth syml iawn ac roedd hynny'n adlewyrchu dymuniad y Dug."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2021