Diddordeb Dug Caeredin ym myd amaeth a chefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Roedd gan Ddug Caeredin ddiddordeb ym myd amaeth a chefn gwlad gydol ei oes.
Wrth i'r ystâd frenhinol yn Windsor droi'n organig, fe benderfynodd y Dug a'r Frenhines i werthu 186 o wartheg Ayreshire pedigri yn 2007 er mwyn cadw gwartheg Jersey organig yn eu lle.
Roedd Philip Reed o fferm Rhosygadair Fawr yng Ngheredigion yn un o dros 80 o ffermwyr wnaeth gais i brynu'r gwartheg.
Dywedodd Mr Reed wrth Cymru Fyw ei fod wedi cael gwybod am y gwartheg gan y Gymdeithas Ayreshire.
Yn wreiddiol, roedd ganddo ddiddordeb i brynu llond dwrn, ond dywedodd y gymdeithas bod y cyfan yn gorfod cael eu gwerthu ar yr un pryd.
"Siaradais i gyda Lorenza, y wraig, a'r ateb wedd 'Na!'" meddai Mr Reed.
"Unwaith darodd [y syniad] mewn i'm mhen, wedes i y baswn i'n licio mynd i weld y da.
"Es i a fy ffrind i lan i weld nhw, a dwi'n cofio Lorenza yn dweud wrtha i beidio'r prynu'r gwartheg!"
'Royal Consent'
Fe fuodd Mr Reed i Windsor ar ymweliad pellach gyda'i deulu.
"Pwy drodd lan ond y Dug!" meddai.
"Sigles i law 'da fe. Oll wedodd e oedd: 'You've got the Royal Consent. The cows are yours.'"
Ym mis Mai 2008, fe hedfanodd Dug Caeredin i faes awyr Aberporth mewn hofrennydd er mwyn gweld y gwartheg yn eu cartref newydd yn Rhosygadair Fawr.
"Roedd e'n casáu'r fuwch Holstein - fe alwodd nhw yn 'ghastly thing'!" meddai Mr Reed.
"Roedd e mor rhwydd i siarad â. Roedd y Dug yn gwneud ei feddwl ei hunan lan.
"Mae bach o riw gyda ni lan i'r clos. Doedden nhw ddim eisiau fe gerdded lan y llethr. Fe a'th e lan drwy'r llethr fel whippet! Tynnodd ei wellingtons bant, ac roedd ei draed dan y bwrdd!"
Er bod yr holl wartheg a brynwyd yn 2007 bellach wedi marw, mae'r llinach frenhinol yn parhau ar fferm Rhosygadair Fawr.
"Ni'n rhoi tarw Ayreshire i'r gwartheg, ac wedyn os yw ei mam neu fam-gu yn wartheg brenhinol, ni'n rhoi Windsor lawr [fel enw].
"Rhos-Windsor ac enw'r fuwch 'da ni'n rhoi ar y dystysgrif. S'dim pawb â gwartheg y Frenhines!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021