Rae Carpenter: Y ddau drobwynt yn fy mywyd

  • Cyhoeddwyd
Rae CarpenterFfynhonnell y llun, S4C

"O'n i bron ddim yn gallu cerdded lawr y stryd heb fod mewn poen so nes i ddim rili sylweddoli bod fi'n rhoi'r pwysau 'mlaen. O'n i jest o dan 16 stôn ac nes i aros fel 'na am dair mlynedd."

O actio a chanu i ffitrwydd, mae'r hyfforddwr personol Rae Carpenter wedi newid byd mwy nag unwaith ac wedi ysbarduno nifer i drawsnewid eu bywydau.

Mae Rae, sy'n byw yn Barri, wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar S4C ers blynyddoedd, yn actio mewn nifer o gyfresi ac hefyd yn canu gyda'r band, Waw Ffactor. Ond yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi dod mwyaf adnabyddus yn ei rôl fel guru ffitrwydd ar FFIT Cymru yn helpu'r arweinwyr i fyw bywyd mwy iach.

Ac mae Rae ei hun wedi profi dau drobwynt sy' wedi newid ei bywyd yn llwyr.

Trobwynt cyntaf

Daeth y cyntaf ar ôl genedigaeth trawmatig ei mab Elis pan oedd Rae yn 24 oed: "Pan ga'th Elis ei eni o'n i'n ffit ac yn iach, yn actio, dawnsio a ddim dros fy mhwysau.

'Nath o jyst dweud yn blwmp ac yn blaen, 'ti angen colli pwysau. Dyma'r broblem yn y bôn. Dyma be' sy'n bod arno ti.'

"Ond roedd cael Elis yn eitha' trawmatig ac 'nath y ddau ohono ni bron farw yn y genedigaeth.

"Ac yn syth ar ôl iddo gael discharge o'r ysbyty aethon ni i fyw yn Yorkshire so o'n i ar ben fy hun ac yn bell wrth fy nheulu yng Nghymru."

Roedd ei gŵr yn gweithio yn Llundain ar y pryd a Rae ddim yn cael gwneud ymarfer corff oherwydd y niwed i'w chorff yn ystod yr enedigaeth.

Meddai: "Nes i roi dros pump stôn mlaen mewn blwyddyn. Yn amlwg yn edrych nôl o'n i'n edrych ar ôl babi ac o'n i ar ben fy hun a ddim yn edrych ar ôl fy hun."

Roedd y fam ifanc yn teimlo'n sâl o hyd ac yn gweld doctor yn rheolaidd gan ei bod yn colli anadl. Awgrymodd y doctor ei bod hi'n gweld ceiropractydd.

Dyma Rae'n esbonio: "Es i i weld ffrind sy'n chiropractor ym Mae Caerdydd. O'n i wedi adnabod o ers blynyddoedd ond pan nes i gerdded mewn doedd e ddim yn 'nabod fi achos o'n i gymaint dros fy mhwysau.

"Nes i gael bach o epiphany pan o'n i 'na. 'Nath o jyst dweud yn blwmp ac yn blaen, 'ti angen colli pwysau. Dyma'r broblem yn y bôn. Dyma be' sy'n bod arno ti.'

"'Nath o awgrymu dilyn rhaglen ffitrwydd o America ac es i adre a nes i golli 3st 4lb yn dilyn y cynllun yma a bwyta'n iach.

"Dyna pryd nes i benderfynu, dwi'n 'neud hyn ar ben fy hunan, mae gen i ddiddordeb helpu eraill.

"A dyna pryd 'nes i wneud y camau cyntaf i stopio teimlo mor wael."

Uniaethu

A'r profiad yma sy'n helpu Rae i uniaethu gydag arweinwyr FFIT Cymru: "Yn y bôn mae gan bawb sy' dros eu pwysau reswm fod y sefyllfa wedi dod i hynny.

"Mae pobl yn gallu bod yn gas yn dweud fod pobl yn ddiog - dyw e ddim fel 'na.

"Mae 'na rywbeth wedi digwydd yn eu bywydau nhw a dyma sut maen nhw wedi ymdopi - maen nhw wedi bod yn lleddfu'r emosiwn trwy bwyd.

Ffynhonnell y llun, Rae Carpenter
Disgrifiad o’r llun,

"Yn amlwg yn edrych nôl o'n i ar ben fy hun a ddim yn edrych ar ôl fy hun"

"Trigger fi oedd trawma y genedigaeth - o'n i ar ben fy hun i ffwrdd o'n nheulu yng Nghymru. Fel mam newydd ti'n canolbwyntio ar y plentyn, ti reit lawr y rhestr o ran pwysigrwydd.

"Nes i ddim sylweddoli fod postnatal anxiety a falle bach o postnatal depression gyda fi tan ar ôl i fi golli'r pwysau. Yn edrych nôl, dyna pam nes i be' nes i."

Yr ail drobwynt

Daeth y trobwynt nesaf ym mywyd Rae yn 2012. Roedd hi wedi bod yn cyflwyno ar sianel siopa yn Lloegr am flynyddoedd ac hefyd yn hyfforddi un neu ddau o bobl pan oedd ganddi amser.

Dywedodd: "Ga'th Mam canser y fron yn 2012 a chwe mis ar ôl iddi gael diagnosis 'natho nhw ffeindio tumour enfawr yn y fron yndda i.

"Dyna pryd 'nes i benderfynu, dw i eisiau newid fy ngyrfa. Dw i ddim eisiau 'neud y sianel siopa rhagor. Dwi eisiau dechrau fy nghwmni fy hun ac helpu eraill.

"A dwi eisiau iddyn nhw wybod fod nhw ddim yn gorfod 'neud e ar ben eu hunain fel 'nes i.

"Ges i'r driniaeth a wnaethon nhw dynnu'r tumour. Wrth lwc doedd dim rhaid i fi gael unrhyw driniaeth arall - doedd dim byd yn y lymph nodes, o'n i'n lwcus tu hwnt.

"Dwi'n cael checks blynyddol nawr achos mae'n fodryb i wedi cael canser y fron ddwywaith a Mam wedi cael e unwaith.

"Mae'r chwant wedyn i fod mor iach a phosib i allu ymladd beth bynnag a ddaw.

"Dwi ddim yn dweud o gwbl fod dim afiechyd yn mynd i gwrdd â mywyd i ond beth dwi ishe yw mod i ddigon cryf a iach i roi 100% i ymladd be' bynnag a ddaw.

"Dyma felly oedd y trobwynt arall i fi, i newid fy mywyd a mynd amdani. Pan mae bywyd yn taflu rhywbeth chi'n angerddol am atoch chi, mae wir yn trio pwyntio ti mewn ffordd gwahanol.

"A dyna beth dwi wedi bod yn neud ers 2012."

Gyrfa newydd

Ers hynny mae Rae wedi bod yn gweithio fel hyfforddwr personol tra'n rhoi cyngor ffitrwydd ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru.

Arweiniodd hyn at rôl fel arbenigwr ar FFIT Cymru, rôl sy'n ei siwtio hi i'r dim: "Mae Dr Ioan (Rees) a fi wedi colli pwysau - mae'r ddau ohonon ni'n gwybod sut fath o siwrne yw e i drawsnewid bywyd.

"'Nath Ioan golli dros wyth stôn, 'nes i golli jyst dan chwe stôn. Ni'n deall yn iawn be' mae'r pump arweinydd yn mynd trwyddi."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Ffitrwydd i fi yw'r meddyginiaeth sy' ddim yn costio ceiniog"

Cefnogi

Rhan bwysig o'r rôl yw rhoi canlyniadau iechyd yr arweinwyr iddynt ar gychwyn y siwrne ac eleni mae Rae wedi gorfod rhoi newyddion anodd i un o'r arweinwyr yn arbennig: "Roedd rhoi canlyniadau Siôn Huw iddo eleni yn reit anodd achos dyna'r canlyniadau gwaetha' ni wedi gweld.

"Mae dweud hynny wrth rhywun sy'n 50 oed efo tri o blant - o'n i'n ymladd i beidio crio gyda fe.

"Dwi'n cofio'r teimlad yn iawn - mae cywilydd gen ti, ti wedi dychryn ac yn nerfus am y dyfodol.

"Pan weles i'r chiropractor a dywedodd e 'ti dros dy bwysau di, mae dy visceral fat di drwy'r to, ti bron chwe stôn dros dy bwysau.' Roedd hynny'n anodd clywed ond hefyd 'oedd rhaid clywed hynny i fod yn drobwynt yn fy mywyd i.

"Mae'r holl emosiynau yma sy'n codi yn rhoi bach o siglad ond be' sy'n grêt yw bod ni'n cael rhoi canlyniad lot gwell iddyn nhw ar ddiwedd eu taith. Dwi'n edrych ymlaen at hynny.

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Rae gyda thîm FFIT Cymru

"Dros y blynydde ni wedi dal llaw yn ystod rhoi canlyniadau drwg iddyn nhw - yn ystod Covid mae hynny mor anodd."

Pandemig

Ac mae Covid-19 yn rheswm arall fod Rae mor angerddol am ffitrwydd gan ei fod hi'n pwysleisio fod y data yn dangos fod gorbwysau a Covid-19 yn gyfuniad peryglus: "Oherwydd hynny mae mor bwysig i bobl ddeall fod 'na gyfle nawr i afael yn eu iechyd nhw, gwneud newidiadau a gwneud penderfyniadau doeth fel bod Covid ddim yn bwrw nhw mor ddrwg.

"Ges i ddim coach na PT, 'nes i popeth ar ben fy hunan [pan yn colli pwysau] ac mae 'na gymaint o bobl allan yna sy' jest ishe bach o atebolrwydd, sy' ishe cefnogaeth a chyngor cywir sy'n gymwysiedig.

"Ffitrwydd i fi yw'r meddyginiaeth sy' ddim yn costio ceiniog."

Mae FFIT Cymru ar S4C bob nos Fawrth am 9.00 ac hefyd ar alw ar BBC iPlayer

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig