Canfod cannoedd o eitemau 'o bwys cenedlaethol' yn Rhuddlan

  • Cyhoeddwyd
Cerrig bachFfynhonnell y llun, AEON Archaeology
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod cerrig bychain wedi eu defnyddio gan helwyr i dorri croen anifeiliaid

Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i "arteffactau o bwys cenedlaethol" ar dir preifat yn Sir Ddinbych sy'n awgrymu fod gan dref Rhuddlan statws bwysig dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Fe ddechreuodd y gwaith o archwilio'r safle ger y castell yn Rhuddlan ddiwedd y llynedd, ar ôl i gais cynllunio gael ei gyflwyno i godi tŷ ar y safle.

Ar ôl cloddio mae archeolegwyr yn dweud eu bod wedi dod o hyd i gerrig mawr a bach sy'n awgrymu bod Rhuddlan yn orffwys-fan i helwyr a gwerthwyr anifeiliaid yn yr Oes Fesolithig.

Mae 'na obaith rŵan y bydd modd arddangos yr arteffactau'n lleol er mwyn galluogi i drigolion yr ardal a phlant ysgol ddysgu am yr hanes a'u gwerthfawrogi.

Dydy darganfod arteffactau yn yr ardal ddim yn anghyffredin oherwydd pwysigrwydd y castell a gafodd ei godi gan Frenin Edward I yn 1277.

Ond mae archeolegwyr yn dweud fod y darganfyddiad diweddaraf dros 10,000 mlynedd oed, ac yn hŷn na phyramidiau'r Aifft a Chôr y Cewri - ac felly yn lawer hŷn na'r disgwyl.

"Fe wnaethom ni ddarganfod 314 o offer cerrig sef lithigau," meddai'r archeolegwr Josh Dean o gwmni Aeon Archaeology.

"Hefyd roedd tri phwll bach ac fe all rhain fod yn dyllau ar gyfer rhoi pyst syth mewn i'r ddaear.

"Mae'r pyst yn cefnogi'r ddamcaniaeth bod hwn yn wersyll hela tymhorol."

Ymhlith y darganfyddiadau mae un garreg fawr a'r gred yw mai hon oedd y garreg oedd yn cael ei ddefnyddio i hoelio pyst i'r ddaear.

Fe gafodd nifer o gerrig bychain miniog hefyd eu darganfod, a'r awgrym yw bod helwyr yn eu defnyddio i dorri croen anifeiliaid.

Yn ôl Josh Dean mae dyddio carbon yn awgrymu fod y darganfyddiad yn un o'r hynaf yng Nghymru o'r Oes Fesolithig.

"Mae'n debyg fod yr offer wedi ei ddefnyddio i baratoi anifeiliaid i fwyta ac i helpu gwneud dillad o groen anifeiliaid," meddai.

"Mae Rhuddlan yn bwynt uchel yn y dirwedd lle fyddai pobl hynafol Prydain yn dal pysgod a hela ac mi fyddai'r ardal wedi cynnig golygfeydd ardderchog ar draws y tir islaw."

"Da ni hefyd yn deall y byddai'r môr wedi bod lawer pellach allan ac felly fod yr ardal wedi bod yn dwll dyfrio neu lwybr mudo i anifeiliaid."

Ffynhonnell y llun, AEON Archaeology

Mae'r gwaith o dyllu a chwilio am ragor o arteffactau bellach wedi dod i ben a rhagolygon pobl leol yn troi tuag at eu harddangos.

"Mae'r arteffactau hyn yn perthyn i Rhuddlan," meddai'r cynghorydd lleol Ann Davies.

"Am fod nhw wedi bod yma am filoedd o flynyddoedd mae'n briodol eu bod nhw'n aros yma.

"Mae 'na fodd inni ddysgu gan ein cyndeidiau ac i ddeall am ein bywydau ni yn y cyd-destun hwnnw."

Mae'r Cynghorydd Davies yn gobeithio y bydd modd i blant ifanc, yn enwedig, ddysgu am hanes yr ardal.

Yn ôl archeolegwyr maen nhw wrthi yn ceisio canfod amgueddfa leol fydd yn gallu arddangos yr arteffactau'n gyhoeddus.

Pynciau cysylltiedig