Cloddiad yn 'newid hanes cynnar' Castell Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad archeolegol mwyaf erioed Castell Caernarfon wedi datgelu cliwiau a fydd yn newid ac yn gwella ein dealltwriaeth o hanes cynnar y safle, medd arbenigwyr.
Datgelodd y cloddiad ddarnau o grochenwaith Rhufeinig o'r ganrif gyntaf, ynghyd â theil ac asgwrn anifeiliaid.
Daeth y tîm o archeolegwyr o Brifysgol Salford hefyd o hyd i dystiolaeth bod y safle wedi'i ddefnyddio ychydig cyn i Edward I adeiladu'r castell presennol yn 1283.
Mae hynny'n cefnogi'r awgrym y bu amddiffynfa mwnt a beili yno'n gynharach.
Dywedodd Ian Miller o'r brifysgol y bydd y canfyddiadau "cyffrous" yn cael "effaith fawr ar y ffordd rydym yn deall hanes a datblygiad y safle eiconig hwn".
"Mae'r prosiect unwaith mewn oes hwn wedi arwain at rai cliwiau arwyddocaol iawn o ran y defnydd o'r safle yn union cyn adeiladu'r castell, a mewnwelediad i'r ffordd y datblygodd yr adeilad anhygoel hwn ar ddiwedd y 13eg a'r 14eg ganrif," meddai Mr Miller.
"Ymarfer casglu data yw cloddio yn ei hanfod, a'n tasg nesaf fydd dadansoddi'r holl gofnodion rydym wedi'u creu ac archwilio'n fanwl yr holl arteffactau a ddarganfuwyd.
"Rydym yn hyderus, unwaith y bydd y gwaith dadansoddi wedi'i gwblhau, y byddwn yn cael llawer mwy o ddealltwriaeth o ddatblygiad hanesyddol y safle.
"Efallai na fyddwn yn ailysgrifennu hanes Castell Caernarfon, ond byddwn yn sicr yn ei wella."
Mae archeolegwyr hefyd yn cwestiynu a allai sylfeini cerrig sydd newydd eu darganfod arwain at ailddehongli'r marciau a nodir ar hyn o bryd yn Ward Isaf y Castell, sy'n nodi lle byddai'r adeiladau gwreiddiol wedi sefyll yn ystod y 13eg neu 14eg ganrif.
Dros y misoedd nesaf, bydd dadansoddiad archeolegol o'r canfyddiadau yn helpu i gadarnhau hyn, gan roi darlun cliriach o linell amser hanesyddol y safle.
Dywedodd Ian Halfpenney, Arolygydd Henebion Cadw, ei fod yn gobeithio y bydd y canfyddiadau'n "dod â hyd yn oed mwy o ymwelwyr i'r safle cyn gynted ag y gall ailagor yn ddiogel".
Ychwanegodd: "Mae'n amlygu'r ffaith nad yw hanes Cymru byth yn sefyll yn llonydd."
Ym mis Tachwedd y llynedd, dechreuodd y gwaith ar gynllun £4m i ailwampio prif fynedfa'r castell.
Mae disgwyl i hwn gael ei gwblhau yn 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2020