Wyth achos o amrywiolyn India yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
coronafeirws

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod wyth achos o amrywiolyn India o Covid-19 wedi eu canfod yng Nghymru.

Mewn datganiad byr dywedodd Dr Giri Shankar o ICC: "Rydym yn ymwybodol o wyth achos o B.1.617, sy'n cael ei ddynodi fel amrywiolyn o dan ymchwiliad VUI-21APR-01 (amrywiolyn India) o Covid-19 yng Nghymru.

"Mae pob achos naill ai mewn teithwyr sydd wedi dychwelyd o India neu cysylltiadau agos yn eu haelwydydd."

Mae swyddogion iechyd yn ymchwilio a yw'r amrywiolyn India yn lledaenu yn haws ac yn osgoi brechlynnau.

Dywedodd un gwyddonydd blaenllaw nad oedd digon o wybodaeth hyd yma i'w ddynodi yn "amrywiolyn o bryder". Mae mwy na 70 o achosion o'r amrywiolyn eisoes wedi eu canfod yn Lloegr a'r Alban.

Mae llywodraeth y DU wedi ychwanegu India at y rhestr o dros 40 o wledydd gwaharddedig o ddydd Gwener 23 Ebrill.

Mae India wedi bod yn adrodd mwy na 200,000 o achosion newydd dyddiol o'r coronafeirws ers 15 Ebrill.

Pynciau cysylltiedig