Chwech o bobl i gael cwrdd tu allan o ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gweinydd yn dal diodyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor yng Nghymru o ddydd Llun 26 Ebrill

Bydd chwech o bobl yn gallu cwrdd yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn, tra bydd tafarndai a bwytai awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun yr wythnos nesaf.

Fe gadarnhaodd y Prif Weindog Mark Drakeford bod modd llacio'r cyfyngiadau rhywfaint wrth i achosion o heintiau Covid-19 newydd barhau i ostwng.

Dyma'r eildro i Lywodraeth Cymru newid cynlluniau cloi yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd.

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y dylai'r penderfyniad fod wedi dod yn gynt, tra bod Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am gymorth ariannol i fusnesau lletygarwch.

Beth sy'n newid?

Ar hyn o bryd mae hyd at chwech o bobl o uchafswm o ddwy aelwyd yn cael cwrdd yn yr awyr agored, heb gynnwys plant o dan 11 oed neu ofalwyr.

Bydd y rheolau newydd o 24 Ebrill yn caniatáu i chwech o bobl o unrhyw aelwyd gwrdd yn yr awyr agored.

Yna ar ddydd Llun 26 Ebrill, fe fydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor, newid fydd "yn helpu'r sector lletygarwch i wella ar ôl 12 mis anodd", meddai Mr Drakeford.

Mae'r rheolau ar gyfer cyfarfod o dan do yn aros yr un fath.

Dywedodd y prif weinidog: "Mae'r cyd-destun iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i fod yn ffafriol, gydag achosion yn cwympo ac mae ein rhaglen frechu yn parhau i fynd o nerth i nerth."

"Oherwydd bod cyfarfod yn yr awyr agored yn parhau i fod â risg is na chyfarfod y tu mewn, gallwn gyflwyno newidiadau i ganiatáu i unrhyw chwech o bobl gwrdd yn yr awyr agored.

"Bydd hyn yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl, yn enwedig pobl ifanc, gwrdd yn yr awyr agored gyda'u ffrindiau. Heb os, bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar les pobl."

Beth mae'r gwrthbleidiau'n ei ddweud?

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, yn dweud y byddai llywodraeth Geidwadol wedi cyflwyno newidiadau "wythnosau yn ôl".

"Mae Llafur yn mynnu chwarae gyda gwleidyddiaeth, yn hytrach na dilyn y wyddoniaeth, ac mae hynny wedi gadael Cymru gyda'r cyfnod clo hiraf, yr effaith economaidd waethaf a'r gyfradd marwolaeth uchaf yn y DU," meddai.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru bod "y cadarnhad hwn yn newyddion i'w groesawu i rai busnesau, ond mae llawer yn dibynnu ar letygarwch dan do am eu hyfywedd ariannol".

Galwodd ar y llywodraeth i "ddilyn esiampl Llywodraeth Yr Alban a rhoi benthyciadau i roi hwb i'r sector lletygarwch".

Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol dywedodd eu harweinydd yng Nghymru, Jane Dodds: "Mae hyn yn amlwg yn newyddion da i'r sector lletygarwch sydd wedi cael ei daro mor galed gan Covid yn enwedig yn ystod y cyfnod clo presennol hwn.

"Rwyf am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cefnogaeth ariannol yn aros i'r bariau a'r bwytai hynny sydd heb ofodau awyr agored ac rwy'n galw am roi cefnogaeth i'r busnesau hynny sydd ond yn gallu agor yn rhannol."

Bydd y Prif Weinidog ddydd Gwener yn cadarnhau llacio pellach i'r rheolau a fydd yn dod i rym ddydd Llun 26 Ebrill.

Ond beth sydd eisoes wedi cael ei gyhoeddi?

  • Fe fydd campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael ailagor i unigolion neu hyfforddiant un-am-un o ddydd Llun, 3 Mai.

  • Bydd dwy aelwyd yn cael cwrdd o dan do o'r dyddiad hwnnw hefyd.

  • Gall gweithgareddau awyr agored sydd wedi'u trefnu, a phriodasau awyr agored ddigwydd o 26 Ebrill yn hytrach na 3 Mai.

  • Mae llety hunanarlwyo eisoes wedi cael ailagor, ac mae gweithgareddau chwaraeon ac awyr agored i blant wedi ailgychwyn.

Agor y sector dan do

Yn y cyfamser mae arweinwyr twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru yn galw o'r newydd ar Lywodraeth Cymru i ailagor lletygarwch dan do a'r sector twristiaeth ehangach.

O dan y cynlluniau presennol ar gyfer Cymru, mae disgwyl i letygarwch dan do ac atyniadau twristiaeth dan do ailagor ddiwedd mis Mai.

17 Mai ydy'r dyddiad yn Lloegr a'r Alban.

Mae Tasglu Twristiaeth Covid-19, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cynrychioli'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru, wedi ysgrifennu at Mr Drakeford yn gofyn iddo ailagor y sector yn unol â Lloegr a'r Alban, neu hyd yn oed yn gynt.

Disgrifiad o’r llun,

Rowland Rhys Evans: "Pam na allwn ni ailagor yr un pryd a Lloegr a'r Alban?"

Mae Twristiaeth Canolbarth Cymru (MWT Cymru), sy'n cynrychioli mwy na 600 o fusnesau ar draws Powys, Ceredigion a rhanbarth Meirionnydd yng Ngwynedd, wedi cefnogi'r llythyr.

"Rydym yn croesawu llythyr y tasglu at y Prif Weinidog oherwydd ei fod yn dod o'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth cyfan," meddai Rowland Rees-Evans, cadeirydd MWT Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud drwy hyn i gyd fod y dyddiadau ailagor yn cael eu harwain gan ddata cyfradd heintiau Covid-19 oherwydd nad yw am i'r GIG gael ei lethu.

"Rydyn ni nawr mewn sefyllfa lle mae'r data yn dangos sefyllfa sy'n gwella'n gyflym, felly pam na allwn ni ailagor yn gyflymach?

"Os na fyddwn yn ailagor y diwydiant yn unol â Lloegr, bydd Cymru ar ei cholled eto ac mae pobl yn mynd i archebu gwyliau mewn rhannau eraill o'r DU", ychwanegodd.