Byw gyda alopecia: "Trio bod yn positif"
- Cyhoeddwyd

"Does 'na ddim cure i hyn a dwi ddim yn gwybod pam mae o wedi cychwyn."
Mae'r dylunydd Sïan Angharad wedi byw gyda'r cyflwr colli gwallt alopecia ers iddi fod yn wyth mlwydd oed.
Mae alopecia'n effeithio bron i 5,000 o bobl yng Nghymru ac yn gallu taro dynion a merched o bob oed. Dyma stori Sïan Angharad.

O'n i tua wyth oed ar y ffordd i'r clwb nofio efo ysgol bach a dyma rhywun ar y bws yn mynd 'o my god, gen ti bald patch ar pen chdi'. O'n i 'di dychryn ac yn teimlo'n rili embarrassed, yn enwedig pan ti oed 'na.
Es i adra a checio dros gwallt fi ac roedd patches bach [moel]. Dros y blynyddoedd dw i wedi cael mwy o patches ac wrth i fi fynd yn hynach maen nhw'n mynd yn fwy ac yn fwy.
Tua dwy flynedd yn ôl es i i Seland Newydd ac oedd o jest yn gwaethygu pan o'n i allan yna. Erbyn i fi ddod nôl o'n i'n edrych yn ridiculous gyda patsh mawr ar yr ochr dde.
Nes i shafio fo a chael undercut ac o'n i fel 'na am cwpl o fisoedd ond o'n i wedi cael digon erbyn y diwedd achos o'n i wedi dechre colli ar yr ochr arall ac ar top fy mhen i. O'n i methu cuddio fo dim mwy. So nes i jest shafio fo ffwrdd.
Rŵan does 'na dim byd yno. Mae jest yn bald. Mae'n weird.

Cymryd rheolaeth
Mae lot o bobl sy'n cael alopecia yn gweld gwallt yn disgyn allan pan maen nhw'n brwsio gwallt nhw, nes i erioed rili cael hynny. Ond erbyn diwedd roedd yr undercut mor ddrwg ac yn dechre dod i ganol fy mhen i - erbyn diwedd roedd o lot hawsach os allen i gymryd control ohono.
Ar ôl shafio fo o'n i'n teimlo 'waw', oedd o'n liberating ac yn deimlad cŵl.
O'n i'n methu stopio chwerthin - o'n i'n edrych ar y drych: wow. Dwi wedi cael gwallt hir erioed ac yn sydyn roedd buzzcut.
Roedd pawb yn rili supportive pan nes i shafio fo gyd off. Mae'r gymuned ar Facebook yn amazing. Mae'n gymuned neis i fod yn rhan ohono fo.
Gwyliwch: Sïan Angharad yn rhannu ei phrofiad hi o golli ei gwallt i alopecia
Derbyn
Dros y blynyddoedd dw i jest wedi gorfod derbyn o. Dw i ddim yn gwybod os 'neith o byth tyfu nôl, ges i cwpl o patches yn dod fyny dros Dolig ond dros nos 'nath rheina ddiflannu.
Dwi 'di colli dipyn bach o gornel eyelashes fi hefyd. Mae hynny'n anodd achos os ti'n colli eyelashes mae grit yn dechrau mynd i dy lygad.
Mae canol eyebrows fi'n dechra' diflannu. Ond dwi'n gallu cyfro hwnna fyny gyda makeup.
Ac mae 'na wigs yn does? A microbladeio.

"Pan dwi'n gwisgo wig yn mynd allan dw i'n teimlo mwy hyderus"
Mae gen i tua 11 wig. Pob math o liwiau gwahanol. Mae'n reit neis, deffro yn y bore, agor y drôr a meddwl pa liw gwallt dwi isho heddiw? Mae hynny'n cŵl, ti'n cael bach o hwyl efo fo.
Pan dwi'n gwisgo wig yn mynd allan dw i'n teimlo mwy hyderus. Mae'n brafiach a dwi'n teimlo mwy fel fi fy hun.
Straen?
Pan o'n i'n mynd i weld doctoriaid ac arbenigwyr oeddan nhw'n rhoi o lawr i stress ond doedd gen i ddim llawer o ddim i fod yn stressed amdano. O'n i'n hogan bach hapus rili.
Autoimmune condition ydy o, does dim cure iddo. Mae dy immune system yn ymosod ar rhan o dy gorff. I fi fy ngwallt ydy o. Ac mae'r gwallt yn disgyn allan.
'Da chi'n gallu colli bob dim, mae rhai pobl dim ond yn colli ar y pen. S'neb rili yn gwybod pam mae'n cychwyn.
Mae pawb yn rhoi e lawr i stress ond dim stress ydy o. Dwi ddim yn gwybod pam mae o wedi cychwyn, dwi'n gallu bod yn berson eitha' chilled.
Dwi'n trio bod yn positif am y peth.

Gwrandewch ar sgwrs Sïan Angharad gyda Hanna Hopwood Griffiths ar raglen Gwneud Bywyd yn Haws ar BBC Radio Cymru
Hefyd o ddiddordeb