'Insomniac ydw i... dwi'n meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Hywel Gwynfryn

Mae Hywel Gwynfryn yn cofio'r gwely plu cyfforddus yng nghartref ei daid a'i nain yn dda.

Ynddo roedd yn teimlo'n ddiogel a'n gallu syrthio i gysgu heb unrhyw drafferth tan y bore.

Ond am y mwyafrif o'i fywyd mae pethau wedi bod yn dra gwahanol ar Hywel. Fel dros hanner poblogaeth Prydain, mae'r cyflwynydd adnabyddus yn byw gydag anawsterau cysgu.

"Dwi'n troi a throsi, poeni, codi, mynd i lawr y grisiau, darllen llyfr, gwneud paned, trio cysgu... dyna'r drefn pob nos.

"Dwi hyd yn oed yn poeni, os fydda i'n cysgu na fyddai'n agor fy llygaid yn y bore."

Mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru mae Hywel wedi bod ar daith i geisio deall ei broblemau cysgu yn well, a dysgu mwy am beth sy'n ein cadw'n effro.

Dwi’n cofio 1989 fel y flwyddyn ddi-gwsg.
Hywel Gwynfryn

Mae Hywel yn gallu adnabod y cyfnod pan oedd ei drafferth cysgu ar ei waethaf. Pan oedd ei fab Sion yn 4 oed, daeth meddygon o hyd i diwmor ar ei ymennydd. Wedi triniaeth a gofal, fe gafodd y tiwmor ei dynnu ac fe wnaeth Sion wella. Ond fe gafodd y profiad dipyn o effaith ar Hywel.

"Yn dilyn y cyfnod anodd hwnnw, yn ychwanegol at yr insomnia fe ddechreuais gyfnod o gael ymosodiadau o banig dirybudd.

"Mi allwn fod yng nghanol y ddinas yng ngolau dydd yn ceisio ymladd i anadlu ac yn credu mod i am gael trawiad ar y galon unrhyw funud."

Er syndod i Hywel, cyngor ei feddyg oedd iddo wneud mwy o ymarfer corff, felly fe gychwynnodd redeg. Ymhen ychydig wythnosau roedd y gor-bryder wedi ysgafnhau - ond parhau gwnaeth y frwydr am noson dda o gwsg.

Yn ôl Nia Williams, sy'n seicolegydd ym Mangor, mae perthynas amlwg rhwng gor-bryder a thrafferthion cysgu.

"Yn aml iawn efo rhai math o broblemau cysgu, beth sy'n digwydd tu cefn i hynny yw'r problemau pryder yma. Mae problemau syrthio i gysgu yn aml yn dod law yn llaw gyda phroblem pryder ac hefyd problem iselder."

Felly pa gyngor oedd gan Nia i Hywel er mwyn cael noson well o gwsg? Osgoi prydau bwyd ac alcohol yn hwyr yn y nos, ymarfer corff yn ystod y dydd a hefyd i geisio osgoi sgrin gyfrifiadur neu ffon cyn mynd i'r gwely.

"Ac hefyd, peidiwch ag edrych ar y cloc! Os ydych chi'n gorwedd yn y gwely yn edrych ar y cloc mae'r gor-bryder yna am godi."

Yr oriau creadigol?

Mae insomnia yn gyflwr y mae rhywfaint o ramant o'i amgylch, gyda sawl cerddor ac artist yn dweud fod ysbrydoliaeth unigryw i'w gael yn ystod oriau man y bore.

Mae straeon am Vincent Van Gogh yn paentio campweithiau wedi methu cysgu yn chwedlonol, ac un o ganeuon mwyaf adnabyddus Paul McCartney mae'n debyg wedi ei chyfansoddi mewn breuddwyd.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Paul McCartney, cyfansoddwr 'Yesterday' a 'Starry Night' gan Vincent Van Gogh - a ydych chi'n teimlo'n fwy creadigol gyda'r hwyr?

Yn y rhaglen cafodd Hywel sgwrs gyda'r dramodydd Aled Jones Williams, fu'n sôn am ei gyfnodau yntau o beidio gallu cysgu a'r effaith gafodd hynny ar ei waith.

"Dwi'n cofio bod methu'n glir a chysgu, felly fe es i lawr y grisiau a fe sgwennais rhyw ddrama. Erbyn y bore roedd hi yno yn ei chrynswth.

"Roedd hynny'n ddigon o hwb i mi feddwl ysgrifennu rhywbeth arall a fe enillodd honno yn yr Eisteddfod.

"Dwi'n meddwl fod ffrwgwd dyddiol rhywsut wedi ildio i rywbeth llawer yn fwy cadarnhaol sef creadigrwydd, a fy mod wedi cael rhyddhad drwy ysgrifennu.

"Beth sy'n digwydd rŵan, ydi mod i'n gallu cael syniadau yng nghanol nos. Neu yn well byth, os dwi'n sgwennu rhywbeth a ddim yn siŵr lle mae'n mynd, rhywle yn y cwsg fe fydd wedi sortio ei hun."

Er iddo glywed sawl awgrym am sut i gael noson well o gwsg yn y rhaglen, parhau mae'r trafferthion cysgu i Hywel am y tro. Ac mae'n disgwyl o hyd i ddeffro gyda drama neu chân bop wedi'i sgwennu...

Hefyd o ddiddordeb