O Gymru i Middle Earth: Cysylltiadau Cymreig The Lord of the Rings

  • Cyhoeddwyd
Morfydd Clark, Luke Evans, Llyfr Coch HergestFfynhonnell y llun, BBC/Warner Bros/Coleg yr Iesu

Dros 80 mlynedd ers i JRR Tolkien gyhoeddi'r nofel The Hobbit, ac ugain mlynedd ers rhyddhau'r cyntaf o drioleg ffilmiau The Lord of the Rings, mae cyfres deledu newydd ar y gweill.

Mae cyfres The Lord of the Rings gan Amazon wedi ei gosod filoedd o flynyddoedd cyn digwyddiadau The Lord of the Rings a The Hobbit yn ngwlad chwedlonol Middle Earth.

Fel y ffilmiau, a gafodd eu cyfarwyddo gan Peter Jackson, mae ffilmio'r gyfres yn mynd rhagddo yn Seland Newydd ar hyn o bryd, ac mae'r Cymry Owain Arthur, Morfydd Clark a Trystan Gravelle ymhlith y cast.

Ond nid dyma'r unig gysylltiad rhwng gwaith JRR Tolkien â Chymru.

Acen Gymreig ym Middle Earth

Ffynhonnell y llun, Warner Brox/Mark Pokorny
Disgrifiad o’r llun,

John Rhys-Davies a Luke Evans - rhai o'r Cymry sydd wedi portreadu cymeriadau o fyd ffantasi Tolkein yn y gorffennol

Nid Owain, Morfydd a Trystan yw'r Cymry cyntaf i droedio tiroedd Middle Earth.

Roedd yr actor John Rhys-Davies, a fagwyd yn Rhydaman, yn chwarae rhan y corrach Gimli yn ffilmiau The Lord of the Rings, yn ogystal â lleisio'r Ent, Treebeard. Ag yntau dros ei chwe troedfedd, roedd yn ddewis diddorol i bortreadu corrach, a bu'n rhaid iddo dreulio llawer o'r cyfnod ffilmio ar ei bengliniau!

Rhyw ddegawd yn ddiweddarach, portreadodd yr actor Luke Evans o Aberbargoed y cymeriad Bard the Bowman yn ffilmiau The Hobbit. Mae'n debyg i'r cyfarwyddwr Peter Jackson ofyn iddo gadw ei acen Gymreig, dolen allanol i chwarae'r rhan. Bu'n rhaid dod o hyd i actorion Cymreig yn Seland Newydd a rhai fyddai'n fodlon dysgu'r un acen er mwyn chwarae aelodau ei deulu.

Tybed a fydd y Cymry ymhlith cast y cynhyrchiad diweddaraf yn cael cadw eu hacenion? Bydd rhaid i ni aros i weld.

Yr iaith Sindarin

Ffynhonnell y llun, BBC/Warner Bros.
Disgrifiad o’r llun,

Siaradwyr Sindarin: Morfydd Clark, a gafodd ei magu ym Mhenarth, sydd yn actio brenhines yr elves - Galadriel - a gafodd ei phortreadu gan Cate Blanchett yn y ffilmiau

Y Gymraeg oedd prif ddylanwad Tolkien pan aeth ati i ddyfeisio Sindarin, prif iaith yr Elves yn y ffilmiau, meddai David Salo, yr ieithydd o'r Unol Daleithiau fu'n gyfrifol am gyfieithu ieithoedd dychmygol ffilmiau Peter Jackson.

"Dylai Sindarin, os yw'n cael ei hynganu'n gywir, swnio'n debyg i'r Gymraeg," meddai, drwy hud a lledrith cyfieithu.

Fe wnaeth Tolkien ddyfeisio nifer o ieithoedd newydd yn seiliedig ar ei wybodaeth o lawer o ieithoedd. Ond dechreuodd newid un o ieithoedd byd yr Hobbits i fod debycach i'r Gymraeg.

"Ym mron pob achos, daeth y newidiadau â'r iaith yn debycach i'r Gymraeg o ran sŵn, a gallwn ddweud fod yr iaith derfynol, y galwodd Tolkien hi'n Sindarin, wedi ei hysbydoli gan y Gymraeg yn fwy nag unrhyw iaith arall," meddai.

Mae hi wedi ei seilio ar batrymau a sŵn y Gymraeg ac yn cynnwys y treiglad meddal a threigladau eraill tebyg i'r Gymraeg, meddai Mr Salo, sydd wedi astudio esblygiad y Gymraeg ei hun.

"Roedd sŵn yr iaith yn amlwg wedi gwneud argraff ar Tolkien, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn gwbl ddieithr i Saesneg, ac eto yn gwbl gartrefol ym Mhrydain."

Dylanwadau cynnar Tolkien

Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Ronald Reuel - JRR - Tolkien yn ieithydd, ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y Gymraeg

Cafodd Tolkien ei fagu y tu ôl i orsaf reilffordd ym Mirmingham ac yn gynnar iawn cafodd ei hudo gan yr enwau Cymraeg roedd yn eu gweld ar y tryciau glo oedd yn dod yno o Gymru.

Roedd ganddo ddiddordeb mewn ieithoedd yn gyffredinol ac wedi marwolaeth ei rieni cafodd ei roi yng ngofal ei offeiriad Catholig a oedd yn hanner Cymro, hanner Sbaenwr. Yn ôl Dr Dimitra Fimi, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd sydd wedi astudio dylanwadau Tolkien, fe ddysgodd ddigon ganddo am y Gymraeg i gael rhyw fath o afael ar yr iaith.

Aeth ymlaen i astudio mwy ar y Gymraeg pan oedd yn ddarlithydd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn ôl Dr Fimi gallai ddarllen hen Gymraeg. Roedd ganddo sawl copi o'r Mabinogion, llyfrau gramadeg Cymraeg a llawysgrifau Cymraeg eraill fel Llyfr Du Caerfyddin.

Roedd Tolkien hefyd wedi dysgu Cymraeg y canoloesoedd i fyfyrwyr ym Mhifysgol Leeds am gyfnod meddai Dr Fimi.

Daearyddiaeth Middle Earth

Ffynhonnell y llun, Richard Sowersby/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ardal Swydd Henffordd ger y ffin â Chymru yn gyfarwydd i Tolkien

Mae Dr Fimi yn awgrymu fod ardal Buckland, lle mae un grŵp o'r Hobbits yn byw, yn cynrychioli Cymru, tra bod y Shire, lle mae arwr y straeon, Bilbo Baggins, yn byw, yn cynrychioli Lloegr - ffin ddaearyddol a fyddai wedi teimlo fel canolbwynt naturiol i straeon Tolkien gan iddo gael ei fagu'n agos at y Gororau rhwng Cymru a Lloegr.

"Mae'r Hobbits yn Seisnig iawn o ran eu moesau ac mae'r Shire yn swnio fel Lloegr yn oes Fictoria," meddai Dr Fimi, "ond ar ymyl y Shire mae ganddon ni'r ardal yma o'r enw Buckland lle mae'r Hobbits 'yn siarad yn rhyfedd' fel mae'n ddweud yn The Lord of The Rings, ac mae ganddyn nhw i gyd enwau sy'n swnio fel rhai Cymraeg.

"Mae'n debyg i Gymru wrth ochr Lloegr," ychwanegodd.

Enwau cymeriadau a llefydd

Ffynhonnell y llun, uip film publicity
Disgrifiad o’r llun,

Dominic Monaghan fel Merry - Meriadoc - yn ffilmiau The Lord of The Rings

Mae nifer o enwau'r Hobbits sy'n byw yn Buckland yn mynd yn ôl i chwedloniaeth Gymraeg meddai Dr Fimi, er enghraifft Meriadoc, sydd â hen daid o'r enw Gorhendad.

Mae Meriadoc yn cael ei alw'n Merry ac yn cael ei chwarae gan Dominic Monaghan yn ffilmiau The Lord of The Rings.

Yn ôl David Salo hefyd, mae cangen arall o'r Hobbits, sef y Stoors, yn dangos dylanwad Cymru. Roedden nhw'n arfer siarad yr un iaith â phobl Dunlending, cymuned glós a dieithr sy'n byw i'r gorllewin. Bwriad Tolkien oedd eu bod yn "cynrychioli parhad yr hen linach Geltaidd a'r iaith Geltaidd sydd i'w gweld mewn rhai enwau lleoedd yn Lloegr," meddai Mr Salo.

A beth am yr enwau llefydd Dol Guldur, Nen Hithoel, Emyn Beraid a Parth Galen? Geiriau sy'n swnio'n rhai Cymraeg, ond nid yr un ystyr meddai Dr Fimi: "Mae'r iaith wedi ei modelu ar Gymraeg gan Tolkien o ran sŵn a gramadeg ond does 'na ddim geiriau Cymraeg y byddai rhywun yn eu hadnabod, er y byddech yn adnabod sŵn yr iaith... ac mae'n bosib bod 'na homoffonau."

Yr Elves - 'trigolion gwreiddiol Ynysoedd Prydain'

Ffynhonnell y llun, Mark Pokorny
Disgrifiad o’r llun,

Evangeline Lilly fel Tauriel ac Orlando Bloom fel Legolas; rhai o'r elves yn ffilmiau Lord of the Rings a The Hobbit

"Roedd yr Elves, o leiaf ar un cam yn y chwedloniaeth, yn cael eu darlunio fel trigolion gwreiddiol Ynysoedd Prydain cyn i bobl ddod yno; ac fe allai fod y blas Cymreig yma yn adlais o hynny," meddai David Salo am y bodau sy'n byw am byth.

Maen nhw'n cael eu gweld, meddai, mewn ffordd ramantiedig iawn o safbwynt yr Hobbits 'Seisnig' yn byw yn bell i ffwrdd i'r gorllewin, tu hwnt i'r afon Lhûn, "sy'n debyg i'r afon Hafren mewn mannau", a'r Mynyddoedd Glas - efallai'n cynrychioli'r Mynyddoedd Duon?

Ychwanegodd David Salo "nad oedd ganddo amheuaeth mai'r prif reswm y dewisodd Tolkien greu mytholeg gydag elves neu dylwyth teg yn ganolog iddi, hynny ydy, bodau goruwchnaturiol gyda phwerau hud a phrydferthwch rhyfeddol, ydy am fod creaduriaid o'r fath yn ymddangos mewn chwedlau Cymraeg a Gwyddelig.

"Ond maen nhw'n brin mewn hen lenyddiaeth Saesneg er fod yna olion yma ac acw mewn cyfundrefnau enwi ac esboniadau, sy'n awgrymu bod 'elves' wedi bod unwaith yn ffigyrau pwysig mewn mytholeg sydd bellach ar goll," meddai.

The Red Book of Westmarch - Llyfr Coch Hergest?

Ffynhonnell y llun, Coleg yr Iesu, Rhydychen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedir fod Tolkien wedi astudio Llyfr Coch Hergest (Llun drwy garedigrwydd Prifathro a Chyfeillion Coleg yr Iesu, Rhydychen)

Mae tystiolaeth fod Tolkien wedi defnyddio un o hen lawysgrifau pwysicaf Cymru, Llyfr Coch Hergest, fel ysbrydoliaeth i'w chwedloniaeth.

Fe ddyfeisiodd Tolkien stori fod chwedlau'r Hobbits wedi eu canfod mewn llawysgrif ffug o'r enw The Red Book of Westmarch - enw sydd wedi ei seilio mae'n debyg ar y Llyfr Coch yr oedd Tolkien wedi ei weld yn Llyfrgell Bodleian, Rhydychen, lle mae'n cael ei gadw.

Yn dyddio nôl i 1382, mae'r llawysgrif yma'n cynnwys straeon o'r Mabinogion a barddoniaeth y Gogynfeirdd.

Ond er y dylanwadau yma, mae Dr Fimi yn pwysleisio mai Hen Saesneg a Hen Norseg yw prif ddylanwadau Tolkien, ac yn eironig, ceisio creu mytholeg Saesneg oedd ar goll yn Lloegr oedd Tolkien pan aeth ati i greu byd chwedlonol Middle Earth.

"Roedd yn teimlo fod 'na fwlch ym mytholeg Lloegr o'i gymharu â Chymru ac Iwerddon a'r gwledydd eraill ac ar y cyfandir hefyd. Mae llawer o'r hyn y byddai'r Eingl-Sacsoniaid wedi credu ynddo wedi ei golli," meddai Dr Fimi.

Mae David Salo yn cytuno: "Roedd y dylanwad Celtaidd ar Tolkien yn fawr, ond bob amser wedi ei leddfu gan ei fwriad i greu mytholeg Saesneg benodol," meddai.

Ond wrth wneud hynny, fe gododd ei gap i chwedlau a diwylliannau gwledydd eraill gwledydd Prydain gyda'r Elves hynafol yn benodol, gyda'u hiaith Sindarin/Cymraeg, yn ein hatgoffa o gyfnod Celtaidd yn hanes Ynysoedd Prydain cyn bodolaeth Lloegr.

Tybed beth fyddai wedi digwydd pe bai'r tryciau glo heb ddod heibio Birmingham?

Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol ym mis Rhagfyr 2014.

Hefyd o ddiddordeb: