Diffoddwyr yn ymladd tanau mawr ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau tân wedi bod yn ymladd yn erbyn nifer o danau mawr ar draws Cymru.
Mae ystafell rheoli gyfunol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi derbyn 490 o alwadau ers 09:00 ddydd Gwener.
Dywedodd rheolwr yr orsaf Alan Thomas bod y gwasanaeth wedi bod yn "eithriadol o brysur".
Yn y cyfamser mae tua 20 diffoddwr tân yn ymladd yn erbyn tân yng Nghilgwyn ger Carmel, i'r dde o Gaernarfon.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae cwmwl mwg y tân mor fawr derbyniodd yr ystafell rheoli galwadau 999 o Ynys Môn.
Dywedodd Lee Smith, sy'n byw yng Ngharmel, ei fod yn meddwl bod y tân tua maint "cae pêl-droed neu ddau".
Mae criwiau tân hefyd wedi bod yn ymladd yn erbyn tanau yn Fynydd Cilfái yn Abertawe; Park Road yn Glynrhedynog, Rhondda Cynon Taf; Nantmor ger Beddgelert yng Ngwynedd; Aberhenwaun Uchaf, Blaendulais, Castell-nedd Port Talbot; Llanrwst, Conwy; a Bae Caswell yn y Gwŷr.