Ryan Giggs wedi'i gyhuddo o ymosod ar ddwy ddynes

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Giggs wedi bod yn rheolwr Cymru ers Ionawr 2018

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar ddwy ddynes.

Mae Giggs, 47, wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol i ddynes yn ei 30au, a churo dynes yn ei 20au.

Mae cyn-seren Manchester United hefyd wedi'i gyhuddo o ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth rhwng Rhagfyr 2017 a Thachwedd 2020.

Dywedodd Giggs mewn datganiad ei fod yn ddieuog o'r cyhuddiadau a'i fod yn "edrych ymlaen at glirio fy enw".

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud mai Robert Page fydd wrth y llyw i Gymru yn ystod Euro 2020 yr haf hwn yn sgil y datblygiad.

Fe ddigwyddodd y ddau ymosodiad honedig yng nghartref Giggs yn ardal Worsley ger Salford ar 1 Tachwedd 2020.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Salford ddydd Mercher. Dywedodd Heddlu Manceinion ei fod ar fechnïaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod wedi penderfynu cyhuddo Giggs, 47, wedi iddyn nhw adolygu tystiolaeth gan Heddlu Manceinion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Robert Page ac Albert Stuivenberg sydd wedi bod yn rheoli Cymru ers i Ryan Giggs gael ei arestio ym mis Tachwedd

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod "wedi nodi penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron o barhau gyda chyhuddo Ryan Giggs".

"Yn sgil y penderfyniad yma, gall CBDC gadarnhau y bydd Robert Page yn rheoli tîm cenedlaethol dynion Cymru ar gyfer twrnament Euro 2020 yn yr haf, gyda chefnogaeth Albert Stuivenberg," meddai'r gymdeithas mewn datganiad.

"Nawr bydd cyfarfod Bwrdd CBDC yn cael ei gynnal i drafod y sefyllfa a'i effaith ar y gymdeithas a'r tîm cenedlaethol.

"Ni fydd CBDC yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."

'Deall difrifoldeb yr honiadau'

Dywedodd Giggs mewn datganiad brynhawn Gwener: "Rwy'n parchu prosesau'r gyfraith ac yn deall difrifoldeb yr honiadau.

"Byddaf yn pledio'n ddieuog yn y llys ac rwy'n edrych ymlaen at glirio fy enw.

"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Robert Page, y staff hyfforddi, y chwaraewyr a'r cefnogwyr ar gyfer yr Euros yn yr haf."