Chwe pherson o chwe chartref yn cael cwrdd tu allan

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

'Gwych' gallu mynd allan i redeg eto gyda ffrindiau, medd Elen Derrick

Mae chwech o bobl o chwe chartref gwahanol yn cael cwrdd yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn ymlaen, wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws barhau i lacio.

Daw'r rheol newydd i rym cyn i dafarndai a bwytai gael caniatâd i ailagor tu allan o ddydd Llun ymlaen.

Ond bydd yn rhaid disgwyl nes 17 Mai cyn y bydd modd i fusnesau o'r fath ailagor dan do, wedi i'r tair plaid fwyaf yng Nghymru gefnogi'r dyddiad hwnnw.

Roedd chwech o bobl yn gallu cwrdd tu allan cyn dydd Sadwrn, ond dim ond pobl o ddau gartref gwahanol oedd yn cael bod yn rhan o'r chwech.

Mae'r rheol newydd yn golygu mai mwyafrif o chwe pherson sy'n dal yn cael cwrdd yn yr awyr agored, ond bellach mae modd i'r rheiny ddod o hyd at chwe aelwyd wahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Fiona Rutherford, chwith, ac Elen Derrick yn cwrdd gyda dwy ffrind arall fore Sadwrn i redeg yng Nghaerydd

Roedd Elen Derrick yn falch o'r cyfle i allu cwrdd am y tro cyntaf ers sbel gyda Fiona Rutherford a dau ffrind arall yng Nghaeau Llandaf yng Nghaerdydd.

Roedd modd i'r ffrindiau redeg 10 cilomedr gyda'i gilydd a chael paned yn y parc ar y diwedd.

Dywedodd Elen: "Rwy'n rhedeg gyda grŵp o ffrindiau ers nifer o flynyddoedd a dydyn ni heb allu rhedeg gyda'n gilydd [oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws].

Mae llacio'r cyfyngiadau'n rhoi "gobaith at y dyfodol", meddai, "ac mae'r cyfraddau [achosion] yn dod i lawr sy'n wych. Mae'n beth da iawn ar gyfer iechyd meddwl hefyd."

'Blwyddyn hir i bawb'

Dywedodd Fiona Rutherford: "Mae'n wirioneddol ffantastig achos rydyn ni wedi arfer rhedeg fel grŵp.

"Dan ni bob tro yn neud chwaraeon gyda'n gilydd ac mae wedi bod yn drist iawn i fethu cael y gwmnïaeth yna.

"Dan ni'n wirioneddol mwynhau rhedeg a bod tu allan, a dyma'r tro cyntaf inni allu dod at ein gilydd fel grŵp am gyfnod hir iawn. Mae'n wych."

Dywedodd Elin Llyr bod hi'n "hyfryd" bod y cyfyngiadau wedi eu llacio.

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn hir i bawb ac nawr bod y tywydd yn braf gallwn ni gwrdd tu allan.

"Er ein bod wedi bod yn cadw i'r rheolau, dan ni wedi bod yn gweld pobol yn neud hyn beth bynnag ers wythnosau felly mae'r braf nawr bod hawl i'w wneud e."

Disgrifiad o’r llun,

Cai Llwyd Jones ar draeth Llanddwyn gydag Ela a Mabli

Roedd Cai Llwyd Jones, o Bentir ger Bangor, yn ymweld â thraeth Llanddwyn ar Ynys Môn, gan ddweud bod y rheolau diweddaraf yn "newid i'w groesawu".

"Mae llawer o bobol wedi bod yn aros am amser hir i weld ffrindiau neu aelodau'r teulu estynedig...

"Ond mae yna pros and cons, achos mae bob man yn brysur fel ag y mae, a mae ond am fod yn fwy prysur rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Arj Fiutek, Frank McDermott, Lucy James ac Elliott Ashton ar draeth Llanddwyn

Teithiodd Arj Fiutek, Frank McDermott, Lucy James ac Elliott Ashton i draeth Llanddwyn o Ruthun.

Dywedodd Elliot bod hi'n "braf" cael bod allan. "Dan ni wedi cael ein cloi i mewn am sbel," meddai.

Cytunodd ei ffrind, Lucy bod hi'n beth da "i gael rhywfaint o normalrwydd yn ôl".

Roedd Arj yn falch o gael gweld y môr ac i "gael chydig bach o awyr iach a mwynhau cefn gwlad Cymru".

Eithriadau i'r rheol

Mae plant dan 11 a gofalwyr wedi'u heithrio o'r rheol chwe pherson.

Mae'r rheol yn debyg i'r hyn sydd eisoes mewn grym yn Lloegr a'r Alban, ond does dim eithriad i blant yn Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor yng Nghymru o ddydd Llun 26 Ebrill

Bydd yn rhaid i deuluoedd ddisgwyl nes 3 Mai i gael cwrdd dan do unwaith eto - bryd hynny bydd modd creu cartref estynedig gydag un aelwyd arall.

Ar hyn o bryd dim ond pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain, rhieni sengl neu deuluoedd sydd â phlentyn sy'n iau nag un oed sydd wedi cael yr hawl i greu cartref estynedig.

Cymru sydd â'r gyfradd isaf o achosion o bedair gwlad y DU bellach - 14.7 achos ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth dros saith diwrnod.

Mae Cymru wedi brechu cyfran uwch o'i phoblogaeth hefyd, gyda dros 55% o gyfanswm y boblogaeth wedi derbyn eu brechlyn cyntaf yn erbyn Covid-19.

Pynciau cysylltiedig