Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Chesterfield

  • Cyhoeddwyd
Y Gynghrair GenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi syrthio un safle yn y tabl wedi gêm ddi-sgôr, ond mae yna obaith o hyd o fachu lle yn y gemau ailgyfle.

Serch hynny, fe fydd sicrhau pwynt ar y Cae Ras ar sodlau dwy fuddugoliaeth yn olynol oddi cartref - y ddwy o bedair gôl i ddim - o bosib yn destun gresyn, os nad siom.

Mae tîm Dean Keates bellach yn seithfed yn y Gynghrair Genedlaethol a Chesterfield yn parhau'n wythfed, wrth i Bromley godi uwchlaw'r ddau dîm wedi eu buddugoliaeth nhw oddi cartref yn Halifax.

Roedd angen arbediad gwych gan golwr Wrecsam, Rob Lainton i atal ymdrech gan Kairo Mitchell, cyn i Nathan Tyson ergydio'n syth ato ac yna methu â manteisio ar gyfle hawdd i rwydo.

Cyn hynny roedd Gold Omotayo wedi dod yn agos at sgorio i Wrecsam ond fe fethodd â chysylltu'n ddigon effeithiol â'r bêl wrth i chwaraewyr y ddau dîm ymgiprys amdano wrth y postyn.

Mae Wrecsam nawr â 53 o bwyntiau - un yn llai na Bromley ac un yn fwy na Chesterfield, sydd wedi chwarae un gêm yn llai na nhw, a Notts County, sydd wedi chwarae dwy gêm yn llai.