Chwe Gwlad Merched: Yr Alban 27-20 Cymru
- Cyhoeddwyd

Hannah Jones oedd capten Cymru am y tro cyntaf gyda'r anaf i Siwan Lillicrap
Mae tîm rygbi merched Cymru wedi darfod pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y safle olaf wrth i'r Alban eu curo yn Stadiwm Scotstoun, Glasgow.
Serch hynny, roedd yn ddiweddglo mwy cadarnhaol i'r tîm wedi colledion mor drwm yn eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.
Sgoriodd y tîm eu pwyntiau cyntaf o'r bencampwriaeth, a'u ceisiau cyntaf - gan yr asgellwyr Lisa Neumann a Caitlin Lewis.
Daeth gweddill pwyntiau Cymru o giciau Robyn Wilkins.
Fe wnaeth ceisiau Megan Kennedy, Christine Belisle Evie Gallagher a Megan Gaffney sicrhau mai'r Alban wnaeth orffen yn bumed yn y tabl.

Hannah Jones a Lisa Thomson
Roedd yr hyfforddwr Warren Abrahams wedi gwneud naw newid i'r tîm gollodd 45-0 yn erbyn Iwerddon bythefnos yn ôl.
Hannah Jones oedd capten Cymru yn absenoldeb Siwan Lilicrap sydd wedi cael anaf.
Cafodd Cymru drafferthion unwaith yn rhagor o ran chwarae gosod, ond roedd yna eiliadau addawol hefyd, gan gynnwys rhediadau campus gan y cefnwr Jasmine Joyce, a berfformiodd yn ardderchog wrth amddiffyn ac ymosod.
Cadarnhaol hefyd oedd y diffyg arwyddion o roi'r ffidil yn y to tan y diwedd wrth geisio cau'r bwlch gyda'r gwrthwynebwyr.
Lloegr yw'r pencampwyr Chwe Gwlad am y drydedd flwyddyn yn olynol ar ôl trechu Ffrainc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2021