Trydydd diwrnod da i Forgannwg yn Northants

  • Cyhoeddwyd
Nick SelmanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae sgôr uchaf Nick Selman o'r tymor hyd ym wedi rhoi Morgannwg mewn sefyllfa gryf dros nos

Mae Morgannwg yn parhau mewn sefyllfa addawol ar ddiwedd trydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Northants ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Wrth ailgydio yn eu batiad cyntaf ddydd Sadwrn, roedd y tîm cartref 156 o rediadau ar ei hôl hi - 251-7 -gyda thair wiced yn weddill.

Roedd yna bartneriaeth werthfawr rhwng Gareth Berg a Wayne Parnell, a sgoriodd hanner canrif yn ei ymddangosiad cyntaf cyn i James Weighell ei fowlio mas am 54.

Ond daeth y batiad i ben erbyn amser cinio, gyda Berg ar 69 heb fod allan, gyda Northants wedi sgorio 364 - 43 o rediadau'n llai na batiad cyntaf Morgannwg, sef 407.

Roedd yna ddechrau hyderus unwaith yn rhagor gan David Lloyd, a sgoriodd 65 yn y batiad cyntaf, a darodd y bêl i'r ffin gydag un o'i ymdrechion cyntaf, cyn mynd allan am 38.

Syrthiodd ail wiced yn fuan wedi hynny - Andrew Balbirnie, heb sgorio.

Gyda Nick Selman ar 28 a Billy Root ar 24 erbyn yr egwyl roedd Morgannwg yn dal mewn sefyllfa addawol - 92-2 - ar ddechrau sesiwn olaf y dydd.

Erbyn i Selman sgorio'i hanner canrif cyntaf o'r tymor, roedd ei bartneriaeth gyda Root wedi ychwanegu mwy na 80 o rediadau i'r sgôr, gan ymestyn mantais Morgannwg.

Pan ddaeth y chwarae i ben am y diwrnod roedd Morgannwg 248 o rediadau ar y blaen.

Kiran Carlson a Chris Cooke fydd yn parhau gyda'r ail fatiad fore Sul gyda'r sgôr bellach yn 205-4.

Pynciau cysylltiedig