Gobaith cyn-filwr wrth drafod hunanladdiad ei efaill
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Abertawe wedi rhannu hanes hunanladdiad ei efaill, oedd yn gyn-filwr, yn y gobaith y bydd yn annog eraill i gael help cyn i'w cyflwr meddyliol waethygu.
Ymunodd Aaron Leventhal a'i frawd Luke gyda'r fyddin pan roedd y ddau yn eu harddegau hwyr.
Setlodd Aaron yn ddidrafferth wedi i'r ddau adael y lluoedd arfog, ond fe suddodd Luke i iselder difrifol cyn lladd ei hun yn Ebrill 2009 yn 25 oed.
Dywedodd Aaron, sydd bellach yn 37: "Dydw i ddim eisiau gweld unrhyw deuluoedd eraill yn gorfod mynd trwy hynny."
Ychwanegodd ei fod "ar goll" wedi marwolaeth Luke.
Gan fod y ddau wedi bod â'u bryd erioed ar fod yn beilotiaid, roedd canolbwyntio ar wireddu'r freuddwyd honno ar eu rhan yn fodd i Aaron ddygymod â'i alar.
Gwta dri mis wedi marwolaeth Luke, fe enillodd drwydded peilot preifat.
Aeth y cyn-grefftwr gyda'r Peirianwyr Mecanyddol a Thrydanol Brenhinol ymlaen i ariannu ei hyfforddiant ei hun trwy yrru tanceri, cyn cael gwaith fel peilot gyda'r cwmni masnachol FlyBe.
Dyna oedd ei waith nes i'r cwmni fynd i'r wal ar ddechrau'r pandemig, ac erbyn hyn mae wedi dychwelyd i'w hen swydd nes fydd y diwydiant hedfan yn dychwelyd i'r arfer.
Dywed Aaron, sy'n byw gyda'i gymar a'u merch saith oed yng Nghasllwchwr, bod iechyd meddwl ei frawd wedi gwaethygu dros ddwy neu dair blynedd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw fe geisiodd sawl tro i ladd ei hun ond roedd yn ffonio Aaron bob tro, ac fe lwyddodd yntau i newid ei feddwl.
'Ymddangos yn hapus'
Ar y noson y fu farw ni ffoniodd Luke ei efaill. Yn hytrach fe adawodd nodyn yn egluro'r rhesymau dros ladd ei hun.
Er yr achosion blaenorol, cafodd Aaron syndod oherwydd roedd Luke i'w weld yn "wirioneddol hapus" yn y pythefnos cynt ac roedd newydd ddechrau swydd newydd.
Ond roedd yn ei gweld hi'n "od" bod Luke wedi gwerthu ei gar, ac wrth edrych yn ôl mae Aaron yn credu bod hynny'n arwydd o'r hyn roedd Luke am ei wneud.
Y noson cyn iddo farw, danfonodd Luke sawl neges destun yn erfyn ar ei frawd i'r ddau gael noson allan ym Mryste.
"Oherwydd dyletswyddau gwaith, doeddwn i methu mynd," meddai Aaron.
"Oriau yn unig wedi hynny, fe laddodd ei hun. Petaswn i ond wedi gwybod, taw oll roedd e eisiau oedd dweud hwyl fawr un tro olaf, byddwn i wedi bod yna yn syth.
"Fyswn i ddim eisiau i unrhyw deulu neu ffrindiau eraill ddiodde'r boen o golli rhywun fel hyn.
"Doedd ei ddim rili'n deall bywyd. Dywedodd e 'ni alla'i weld y pwynt mewn dim byd'. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn deall iselder - roedd e lan a lawr ac roedd yn wirioneddol ddwys.
"Dydw i ddim eisiau i deuluoedd eraill fynd trwy hynny. Wedi iddo farw ro'n i ar goll am o gwmpas blwyddyn."
Trwy hyfforddi fel peilot, daeth Aaron i delerau gyda'i alar ac ailafael mewn bywyd.
Roedd yn ofni y gallai yntau syrthio i grafangau iselder pe tasai'r colli ei waith, ond dywedodd ei fod wedi dod trwy'r pandemig yn gryfach ac mae nawr am i bawb wybod bod yna wastad obaith.
Serch hynny, ni fu'n amhosib anghofio trawma marwolaeth ei efaill ac mae felly'n gosod heriau i'w hun, ac yn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd iechyd meddwl.
Mae Aaron a sawl ffrind a pherthynas yn dringo Pen Y Fan ym Mannau Brycheiniog 10 gwaith o fewn 24 awr - hyd yr un faint ag uchder Kilimanjaro.
Mae'n gobeithio codi £2,000 dros elusen Papyrus, sy'n ceisio atal pobl ifanc rhag lladd eu hunain.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020