Plaid i 'newid system ariannu i helpu disgyblion tlawd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prydau ysgolFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru'n addo ehangu'r rhaglen prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd yn y pen draw

Byddai llywodraeth Plaid Cymru'n newid y system ariannu bresennol o ran helpu disgyblion tlotach, medd yr arweinydd Adam Price.

Dywedodd bod "rhaid newid" y cysylltiad presennol rhwng y grant amddifadedd disgybl a phrydau ysgol, wrth i'r blaid addo ymestyn y cynllun prydau ysgol di-dâl.

Ond dywedodd y byddai'r blaid "yn cynnal a chynyddu'r ffocws ar gyrhaeddiad addysgiadol" a dod o hyd i ffyrdd eraill o gynyddu'r cyllid ar gyfer yr ysgolion tlotaf.

Mae'r Blaid Lafur wedi cyhuddo Plaid Cymru o "gyhoeddi polisïau i ddwyn penawdau heb feddwl am yr effaith gynyddol ar ysgolion a theuluoedd".

Os fydd Plaid Cymru mewn grym wedi etholiadau'r Senedd, mae'r blaid yn addo ehangu'r rhaglen prydau ysgol am ddim yn achos teuluoedd sy'n derbyn y Credyd Cynhwysol, ac yna i gynnig prydau am ddim i bob disgybl cynradd erbyn diwedd tymor y Senedd nesaf.

Wrth siarad ar raglen Politics Wales, dywedodd Adam Price y byddai'r polisi'n costio £160m y flwyddyn erbyn blwyddyn olaf tymor y Senedd.

Dan y drefn gyfredol, mae ysgolion yng Nghymru'n cael grant amddifadedd disgybl (PDG) o £1,150 y flwyddyn i bob plentyn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Gofynnwyd ar y rhaglen a fyddai'r cysylltiad rhwng y grant a phrydau am ddim yn torri dan gynigion Plaid Cymru. Atebodd Mr Price: "Yn amlwg byddai'n rhaid i hwnna newid, oherwydd wrth i chi wneud e'n gyffredinol yna fe mae, trwy ddiffiniad, yn gyffredinol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price

Gofynnwyd a fyddai'r cysylltiad yn parhau yn y lle cyntaf, wrth ymestyn y rhaglen prydau ysgol am ddim i gynnwys rhieni sy'n derbyn y Credyd Cynhwysol. Atebodd: "Bydde'n rhaid cael cysylltiad ond bydde'n rhaid inni edrych ar sut ry'n ni'n ymateb i broblem cyrhaeddiad addysgiadol a defnyddio ffyrdd eraill o dargedu'r buddsoddiad i'r ysgolion hynny ble mae nifer uwch o [blant] dan anfantais."

Mynnodd y byddai'r blaid "yn ddi-ffael, yn cynnal a chynyddu'r ffocws ar gyrhaeddiad addysgiadol oherwydd nid ydym wedi cau'r bwlch cyn gyflymed ag y mae angen i ni wneud".

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Sylwer: Efallai y bydd etholiadau cynghorau plwyf neu is-etholiadau mewn cynghorau hefyd lle rydych chi, nad ydyn nhw wedi'u cynnwys fan hyn. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion llawn. Diweddarwyd ddiwethaf: May 11, 2021, 12:35 GMT

Ychwanegodd: "Ar ben y polisi prydau ysgol am ddim, rydym wrth gwrs yn dadwneud y toriad mewn termau real sydd wedi bod yn nhermau cyllid y pen i bob disgybl mewn addysg ar y cyfan.

"Rydym, yn rhoi £300m ychwanegol erbyn diwedd tymor y Senedd i ysgolion fel y gallwn ni gael 4,500 o athrawon a staff arbenigol ychwanegol.

"Mae llawer o hynny yn llwyr ynghylch mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad, sy'n dal y genedl gyfan yn ôl."

Ymateb pleidiau eraill

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Unwaith yn rhagor, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi polisïau i ddenu penawdau heb feddwl am yr effaith gynyddol ar ysgolion a theuluoedd.

"Dyma anghyfrifoldeb o'r mwyaf mewn cyfnod pan fo angen i ni ganolbwyntio ar helpu disgyblion i ddala lan yn yr ysgol wedi'r amhariad yn sgil Covid.

"Bydd Llafur Cymru'n diogelu'r cysylltiad gyda chefnogaeth uniongyrchol ar gyfer plant dan anfantais oherwydd mae'n hanfodol i'n perwyl o hybu cyrhaeddiad."

Mewn erthygl yn The Sunday Times, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies bod 22 mlynedd o lywodraethau dan arweiniad Llafur wedi arwain at "ddirywiad llwyr yn ein heconomi, seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus".

Dywedodd bod llywodraeth Cymru "wedi addo dileu tlodi plant, ond nawr mae gyda ni'r gyfran uchaf o blant - tri i bob 10 - yn byw mewn tlodi o holl wledydd y DU.

"Sut bynnag y mae'r Blaid Lafur yn ymdrechi i geisio gwyro'r cyfrifoldeb, nid bai'r pandemig mo hyn, a nid datganoli ei hun sydd ar fai ychwaith. Mae hon yn sgandal y mae Llafur wedi ei chreu."

Yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fyddai modd cyrraedd targed hirhoedlog o ddileu tlodi plant erbyn 2020 gan fod newidiadau lles Llywodraeth y DU'n amharu ar ymdrechion yng Nghymru.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn pwyso am godi'r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i 13% o holl wariant y GIG erbyn 2028.

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds: "Mae'r flwyddyn ddiwetha' wedi dangos bod angen adferiad gofalgar yng Nghymru.

"Mae ein dyled i'n gweithluoedd iechyd a gofal yn enfawr, ac i'r llu o ofalwyr di-dâl yn ein cymunedau.

"Mae Covid-19 wedi dangos pa mor hanfodol yw ein GIG, ond hefyd yr heriau sy'n ei wynebu.

"Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac yng ngofalwyr ein gwlad."

Mae Politics Wales ar gael ar iPlayer.