Cymru i herio cewri hemisffer y de yn yr hydref

  • Cyhoeddwyd
Seland NewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd ymweliad cyntaf y Crysau Duon â Chaerdydd ers 2017

Bydd Cymru'n herio Seland Newydd, De Affrica, Awstralia a Ffiji yng Nghyfres yr Hydref yn Stadiwm Principality yn ddiweddarach eleni.

Y Crysau Duon, sy'n gwneud eu hymweliad cyntaf i Gaerdydd ers 2017, fydd y gwrthwynebwyr yn y gêm gyntaf ar 30 Hydref.

Bydd pencampwyr y byd, De Affrica yn ymweld â'r brifddinas wythnos yn ddiweddarach.

Ffiji fydd y gwrthwynebwyr ar 14 Tachwedd cyn i Awstralia gloi'r gyfres ar 20 Tachwedd.

'Hyderus y bydd cefnogwyr'

Fe fydd y gemau yn gorfod dilyn y rheolau coronafeirws fydd mewn grym erbyn hynny, ond dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei fod yn "hyderus y bydd Cyfres yr Hydref yn gweld cefnogwyr yn dychwelyd i Stadiwm Principality".

Dywedodd y prif weithredwr Steve Phillips: "Ein nod a'n huchelgais ydy cyflawni Cyfres yr Hydref 2021 gyda thorfeydd llawn.

"Rydyn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn gywir ac yn ddiogel, ac er mwyn i ni allu gwireddu digwyddiadau mawr mae'n rhaid i ni gynllunio ymhell o flaen llaw, tra hefyd yn aros yn hyblyg a bod yn barod i newid."