Rheolwr Cymru Ryan Giggs yn gwadu ymosod ar ddwy ddynes

  • Cyhoeddwyd
Ryan Giggs yn cyrraedd Llys Ynadon Manceinion fore MercherFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs yn cyrraedd Llys Ynadon Manceinion fore Mercher

Mae rheolwr pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, wedi pledio'n ddieuog i ymosod ar ddwy ddynes.

Ymddangosodd Giggs, 47, o flaen llys ym Manceinion wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol i'w gyn-gariad, Kate Greville, 36, ac ymosod ar ei chwaer hi, Emma Greville, yn Salford ym mis Tachwedd.

Mae cyn-seren Manchester United hefyd wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth rhwng Rhagfyr 2017 a Thachwedd 2020.

Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Manceinion i gadarnhau ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni, cyn i'r cyhuddiadau gael eu cyflwyno iddo.

Mae dogfennau gafodd eu cyflwyno i'r llys yn honni iddo ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth gan gynnwys ymddwyn "yn dreisgar, ynysu, bychanu, gwaradwyddo, harasio ac iselhau".

Honnodd Andrea Griffiths, ar ran yr erlyniad fod y cyn bêl-droediwr wedi taro un ddynes gyda'i ben ar 1 Tachwedd 2020 a bod hyn ar ôl bod yn yfed.

Cafodd Giggs ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod nad oedd yn cysylltu gyda'r ddwy ddynes sydd ynghlwm â'r achos.

Fe fydd yr achos llawn yn cael ei glywed yn Llys y Goron Manceinion ddiwedd Mai.

Roedd Giggs eisoes wedi dweud mewn datganiad ei fod yn ddieuog o'r cyhuddiadau a'i fod yn "edrych ymlaen at glirio fy enw".

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud mai Robert Page fydd wrth y llyw i Gymru yn ystod Euro 2020 yr haf hwn.