Ateb y Galw: Y cerddor Owain Roberts
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Owain Roberts sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Stel Farrar yr wythnos diwethaf.
Yn wreiddiol o Fangor, mae Owain bellach yn byw yn Llundain lle mae'n gweithio fel cyfansoddwr. Mae Owain wedi trefnu cerddoriaeth i nifer o grwpiau a cherddorfeydd ac mae hefyd yn cyfansoddi i'r sgrin. Yn ogystal â'i waith fel cyfansoddwr, mae'n rhedeg ei fand ei hun, sef Band Pres Llareggub.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae gen i atgof cynnar iawn o du fewn i beiriant golchi. Yn ôl y sôn, o'n i'n aml yn dringo fewn i'r peiriant golchi am ryw reswm.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Kelly Kapowski o Saved by the Bell.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Nesh i 'neud sawl gig yn fy ugeiniau cynnar lle o'n i'n defnyddio loop-pedal a laptop ac mae sawl stori o'r dechnoleg yn fy ngadael lawr ar lwyfan mewn ffordd ddramatig... Mae gorfod neud restart ar Apple Macbook yn ganol cân o flaen cynulleidfa yn brofiad erchyll…
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Nesh i grio deigryn o hapusrwydd pan fu geni fy mab, Taliesin, ryw ddeufis yn ôl.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Y Fenai. Mae'n teimlo fel adra.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Lionel Messi.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes. Dwi'n bwyta lot gormod o bethau melys..
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff ffilm ydi Fargo gan y brodyr Coen. Mae'r sgript, y cymeriadau, y stori, y gerddoriaeth, i gyd yn wych.
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Optimistig. Gweithgar. Cerddorol.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi ddim yn or-hoff o gaws... Dwi erioed 'di cael cramp... Dwi efo lefel-A mewn electroneg ond fedrai'm weirio plwg.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Mae gen i ddant melys so swn i'n mynd am dair cwrs o bwdiannau os swni'n cael dewis!
Crempogau i gychwyn. Pwdin sticky toffi gyda hufen ia fel prif gwrs a chrymbl mam fel pwdin!
Beth yw dy hoff gân a pham?
For once in my life, Stevie Wonder. Hoffi llwyth o sdwff Stevie.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Barack Obama. Fy arwr.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Am gwestiwn depressing… Swn i'n hoffi neud sky-dive.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gymaint o atgofion da o nosweithiau gwyllt ym Mangor Uchaf nôl yn nyddiau chweched dosbarth ysgol Tryfan.
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
Eve Goodman